News Centre

Datganiad ar y cyd gan arweinwyr grwpiau Llafur, Plaid Cymru ac Annibynnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Postiwyd ar : 14 Ion 2022

Datganiad ar y cyd gan arweinwyr grwpiau Llafur, Plaid Cymru ac Annibynnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Cyng Philippa Marsden, Cyng Kevin Etheridge and Cyng Colin Mann

Gwaetha'r modd, rydyn ni'n gweld nifer gynyddol o gynghorwyr ac ymgeiswyr yn cael eu cam-drin, eu bygwth a'u dychryn.

Yn ogystal â bod yn gwbl annerbyniol, mae'r ymddygiad hwn yn tanseilio egwyddorion rhyddid barn, ymgysylltu democrataidd a thrafod.

Rydyn ni'n ymdrechu i drin pawb â chwrteisi, caredigrwydd a pharch ac, fel arweinwyr ein grwpiau gwleidyddol, rydyn ni'n sefyll gyda'n gilydd i alw am roi diwedd ar gam-drin, brawychu ac aflonyddu o unrhyw fath.

Mae hyn yn arbennig o berthnasol wrth i ni gychwyn ar y cyfnod allweddol cyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai.

Darllenech fwy



Ymholiadau'r Cyfryngau