Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • Covid-19 - Latest information regarding school provision
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Newyddion    Newyddion    Gorffennaf 2020    Golau gwyrdd ar gyfer datblygiad tai blaenllaw Pontllan-fraith

News Centre

Golau gwyrdd ar gyfer datblygiad tai blaenllaw Pontllan-fraith

Postiwyd ar : 08 Gor 2020

Golau gwyrdd ar gyfer datblygiad tai blaenllaw Pontllan-fraith
Cafodd caniatâd cynllunio ei rhoi ar gyfer datblygiad tai blaenllaw, ar yr amod na fydd Gweinidogion Cymru yn codi unrhyw wrthwynebiadau, ym Mhontllan-fraith; gan ddod â chartrefi fforddiadwy mawr eu hangen i'r ardal yn y dyfodol.
 
Cafodd cymeradwyaeth ei roi ar gyfer datblygiad Pentref Gerddi'r Siartwyr yn ystod cyfarfod o bell Pwyllgor Cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a gafodd ei gynnal heddiw (dydd Mercher 8 Gorffennaf). Rhoddwyd sicrwydd i’r Cynghorwyr na fyddai'r datblygiad yn tresmasu ar Barc Coffa Harold Finch, sydd wedi'i leoli ger y safle, na'r warchodfa natur a'r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI).
 
Mae Pentref Gerddi'r Siartwyr yn gydweithrediad cyffrous rhwng y Cyngor a Grŵp Pobl a fydd yn arwain at ddatblygiad deniadol o fewn ôl-troed hen swyddfeydd y Cyngor, Tŷ Pontllan-fraith sy'n cynnwys 125 o gartrefi - o'r rhain, bydd 83 (dwy ran o dair o'r datblygiad) yn fforddiadwy.
 
Bydd y datblygiad yn dilyn y cysyniad ‘pentref gerddi’, gyda chartrefi mewn arddull celf a chrefft fythol, wedi’u dylunio i wella safonau gofod, wedi’u hadeiladu o amgylch tirwedd o goed stryd, ymylon glaswellt a mannau gwyrdd agored.
 
I ddechrau, fe wnaeth y Pwyllgor Cynllunio ystyried cynigion Pentref Gerddi'r Siartwyr ar 17 Mehefin lle penderfynwyd gohirio'r cais, ac i swyddogion ddarparu gwybodaeth ychwanegol mewn ymateb i bryderon ynghylch y posibilrwydd o golli man gwyrdd.  Yn dilyn hynny, cafodd adroddiad ei ddarparu a'i gymeradwyo, gan ail-gadarnhau na fyddai'r datblygiad yn tresmasu ar y Warchodfa Natur Leol na Pharc Coffa Syr Harold Finch.
 
Roedd yr adroddiad yn dangos hefyd y lefelau sylweddol o angen tai yn yr ardal, ynghyd ag ymrwymiad Pobl i ddarparu tai fforddiadwy ar y datblygiad ar lefel sy'n uwch na gofynion polisi'r Cyngor.
 
Dywedodd y Cynghorydd Lisa Phipps, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gartrefi, Lleoedd a Thwristiaeth, “Mae darparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel yn flaenoriaeth allweddol i'r Cyngor. Bydd Pentref Gerddi'r Siartwyr yn cynnig amrywiaeth o opsiynau tai ar gyfer pobl leol ar ddatblygiad blaenllaw ac mewn prif leoliad. 
 
Yn ogystal â thai fforddiadwy, mae partneriaeth y Cyngor â Pobl hefyd yn cyflwyno'r posibilrwydd ar gyfer buddsoddiad ehangach yn yr economi leol, fel creu swyddi a chyfleoedd hyfforddi." 
 
Ychwanegodd Neil Taylor, Pennaeth Datblygu (Dwyrain) Pobl, “Rydyn ni’n falch o gydweithio â Chyngor Caerffili ar y cynllun blaenllaw hwn. Ein gweledigaeth yw creu pentref gerddi modern gydag ymdeimlad gwirioneddol o le a chymuned, gan ddefnyddio egwyddorion dylunio da a thrwy wella'r seilwaith gwyrdd presennol.
 
Bydd Pentref Gerddi'r Siartwyr yn cynnig cyfuniad o opsiynau tai gan gynnwys tua dwy ran o dair o dai fforddiadwy, gan gynnwys rhent cymdeithasol a chartrefi cydberchnogaeth, yn ogystal â phrynu cartrefi yn gyfan gwbl.  Rydym hefyd wedi ymgorffori nodweddion draenio trefol cynaliadwy yn y dyluniad gan gynyddu nifer y mannau gwyrdd ac ardaloedd chwarae naturiolaidd.”
 


Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
  • Cyngor yn cymeradwyo ymgynghoriad ar gam nesaf y Cynllun Datblygu Lleol
  • Diogelu EICH gwasanaethau yn ystod y cyfyngiadau
  • Cyngor i ystyried camau gweithredu ar gyfer cyflenwi tai
  • Cabinet i ystyried blaenoriaethau'r Fforymau Iau ac Ieuenctid
  • Cabinet yn cymeradwyo cyllid i wneud iawn am ddiffyg yn nyfarniad cyflog athrawon
Ymholiadau'r Cyfryngau
  • Cyfeiriad E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl