News Centre

Cabinet yn cymeradwyo Pafiliwn Aml-swyddogaeth a Chwaraeon newydd i Gadetiaid ym Mharc Morgan Jones

Postiwyd ar : 28 Gor 2022

Cabinet yn cymeradwyo Pafiliwn Aml-swyddogaeth a Chwaraeon newydd i Gadetiaid ym Mharc Morgan Jones
Mae'r Cabinet wedi cytuno'n ddiweddar i adeiladu pafiliwn aml-swyddogaeth a chwaraeon newydd i gadetiaid ym Mharc Morgan Jones.
 
Bydd y pafiliwn aml-swyddogaeth a chwaraeon newydd i gadetiaid yn cael ei gyflwyno fel cyd-brosiect â'r Weinyddiaeth Amddiffyn. Bydd yn darparu lle i sefydliadau cadetiaid a chlybiau ddarparu gweithgareddau ieuenctid i bobl ifanc ar draws y fwrdeistref a'r gymuned leol. Bydd y datblygiad yn gweld Neuadd Llu Awyr Brenhinol a Chadetiaid y Fyddin, a Phafiliwn Bowls Newydd o fewn yr un adeilad.
 
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, aelod ward lleol a’r Dirprwy Arweinydd, “Mae gan y Cadetiaid Awyr a’r Clybiau Bowlio aelodaeth sy’n ymestyn dros ardal ehangach Caerffili, a’r gobaith yw y bydd creu cyfleuster newydd yn cynyddu’r aelodaeth. Mae'r cyd-fenter hon yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth, a'r defnydd da o arian wrth gefn y Cyngor”.
 
Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, aelod ward leol ac Aelod Cabinet dros Dai, “Rwy’n falch iawn o eilio prosiect anhygoel ar y cyd rhwng CBSC a’r Weinyddiaeth Amddiffyn i greu Pafiliwn Aml-swyddogaeth a Chwaraeon newydd i Gadetiaid ym Mharc Morgan Jones. Rwy’n falch o weld buddsoddiad pellach ym Mharc Morgan Jones yn dilyn buddsoddiad a sicrhawyd yn flaenorol yn y Parc Sglefrio a’r Pad Sblasio Dŵr”.


Ymholiadau'r Cyfryngau