News Centre

Cyngor Caerffili yn cwblhau cartrefi newydd arloesol

Postiwyd ar : 29 Gor 2022

Cyngor Caerffili yn cwblhau cartrefi newydd arloesol
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gyhoeddi bod gwaith wedi ei gwblhau’n ddiweddar ar ei ddatblygiad tai arloesol newydd; y cyntaf i gael eu hadeiladu ganddynt mewn 20 mlynedd.

Y cartrefi ar y ddau safle yn ardaloedd Trecenydd a Thretomos yng Nghaerffili yw’r cyntaf o’u math nid yn unig i Gyngor Caerffili, ond y cyntaf o’u math yng Nghymru gyfan hefyd; gyda dyluniad Primaframe dur unigryw wedi’i ddefnyddio i ddatblygu’r cartrefi i safonau Passivhaus, gan gynnig y lefelau uchaf o effeithlonrwydd ynni.

Cafodd y cartrefi eu cwblhau fel rhan o raglen beilot, gyda chyllid ychwanegol o £3.1 miliwn yn cael ei ddarparu gan Raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru. Gweithiodd y Cyngor mewn partneriaeth â’r arbenigwr adeiladu Willmott Dixon, y gwneuthurwr dur Caledan o Ystrad Mynach, a’r penseiri Holder Mathias i ddylunio a darparu’r 18 o fflatiau ag un ystafell wely newydd.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Caerffili, y Cynghorydd Sean Morgan, “Bydd y cartrefi hyn nid yn unig yn ein helpu i ddiwallu anghenion tai yn lleol ond hefyd yn gwella iechyd a lles tenantiaid y dyfodol a sicrhau bod eu costau tanwydd yn cael eu cadw i’r lleiafswm; mater sy’n hynod bwysig yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, gyda’r argyfwng costau byw presennol a phrisiau ynni yn saethu i fyny.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod yn allweddol i lwyddiant y prosiect hwn, a hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r broses o gyflawni’r cartrefi newydd arloesol hyn. Mae’r cartrefi ansawdd uchel hyn wedi cael eu dylunio gydag anghenion tenantiaid y dyfodol wrth eu gwraidd.”

Meddai Ian Jones, Cyfarwyddwr Willmott Dixon, “Rydyn ni’n falch iawn o gyrraedd y garreg filltir hon wrth gwblhau’r cartrefi yn Nhretomos. Rydyn ni wedi cydweithio â Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ers 2019 ac ers hynny rydyn ni wedi rhoi technegau cynhyrchu arloesol ar waith ac ymgysylltu â phartneriaid lleol i fynd i’r afael â’r prinder sgiliau sy’n wynebu’r diwydiant, drwy arloesedd a dull ‘ffabrig yn gyntaf’.

“Yn ystod y cyfnod adeiladu, rydyn ni wedi ymrwymo i gynorthwyo nid yn unig ein cwsmer a phartner yn y prosiect hwn, ond hefyd y cymunedau lleol ac ehangach. Trwy ein hymrwymiad gwerth cymdeithasol rydyn ni wedi rhoi gliniaduron i’r gymuned a hefyd wedi cynorthwyo gwaith dosbarthu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae Willmott Dixon yn falch o fod wedi cyflawni’r cartrefi modern, ynni isel hyn i’n cwsmer, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a fydd yn helpu i fynd i’r afael â thlodi tanwydd a darparu cartrefi o safon a hawdd eu cynnal a chadwl i’r tenantiaid.”

Ychwanegodd Chris Morton, Prif Swyddog Gweithredol Caledan, “Mae Caledan yn falch iawn o fod yn rhan o’r datblygiadau hyn. Mae’r cynllun arloesol wedi ein galluogi ni i archwilio dulliau cynhyrchu newydd a gwthio ffiniau fframio dur ysgafn er pwrpas adeiladu Passivhaus. Rydyn ni hefyd wedi gallu darparu cyfleoedd gwaith yn lleol ac edrych i’r dyfodol. Mae wedi bod yn bleser llwyr gweithio gyda phawb dan sylw.”

Dywedodd Craig Jones, Partner yn Holder Mathias, “Mae’n rhaid llongyfarch Cyngor Caerffili ar eu gweledigaeth a’u hymrwymiad wrth arwain y prosiectau tai arloesol hyn – y cyntaf o’u math yng Nghymru – ac wrth wneud hynny, yn gosod pobl wrth wraidd popeth y mae’r cynlluniau hyn yn eu cynrychioli. Mae Holder Mathias wedi bod wrth eu boddau ac yn falch o fod yn rhan o’r ymdrech tîm cadarnhaol ac angerddol i greu tai Passivhaus ar gyfer yr oes yr ydyn ni’n byw ynddi. Mae wedi bod yn gyffrous a gwerth chweil i ddylunio a darparu’r cartrefi modern hyn, gan gynnig anheddau amgylcheddol flaengar a phleserus i bobl yn eu cymunedau eu hunain.”
 


Ymholiadau'r Cyfryngau