Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis.
Cliciwch am fwy o fanylion
.
Skip to content
Hygyrchedd
Cysylltwch â ni
Y ganolfan newyddion
Fy nhudalennau
English
Search for:
Tasgau poblogaidd
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Menu
Tasgau poblogaidd
Etholiad Cyffredinol 2019
Swyddi gwag
Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
Diwrnodau casglu biniau
Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
Apeliadau derbyn i ysgolion
Casgliadau bin a gollwyd
Cerdyn Teithio Rhatach
Amserlenni bysiau
Canolfannau ailgylchu
Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
Gwybodaeth am wasanaethau dros y Nadolig
Preswylydd
Busnes
Pethau i'w gwneud
Y Cyngor
Cymerwch ran
Newyddion
Newyddion
June 2019
Sioe ‘WOMANS (like Romans but with a ‘W’)’ yn dod i Sefydliad y Glowyr Coed Duon
News Centre
Sioe ‘WOMANS (like Romans but with a ‘W’)’ yn dod i Sefydliad y Glowyr Coed Duon
Postiwyd ar : 18 Meh 2019
Daw’r sioe theatr gorfforol ddyfeisgar, doniol a hynod bleserus hon i Sefydliad y Glowyr Coed Duon.
Hoffai’r Sefydliad eich gwahodd i weld un o’r sioeau mwyaf eithriadol yr haf eleni. Mae sioe ‘WOMANS (like Romans but with a ‘W’)’ yn llawn hwyl ac yn hynod o ddifyr ac mae'n dod i Sefydliad y Glowyr Coed Duon ar nos Fercher 19 Mehefin am 7.30pm
Mae'n 44CC, adeg Rhufain hynafol. Mae ein harwres, Leta, wedi cael ei ddatgan fel bradychwr gan y Senedd Rufeinig. Mae hi'n cael cosb sy'n waeth na marwolaeth – sef i'w dileu o hanes. Ond gyda chymorth yr Awenau direidus, mae hi'n gwrthryfela yn erbyn y Weriniaeth. Ymunwch â thaith benderfynol Leta i adennill ei lle yn y llyfrau hanes.
Yn llawn comedi corfforol fel clown a cherddoriaeth wreiddiol, mae ‘WOMANS’ yn stori aflafar am y gwrthwynebiad benywaidd cyntaf.
Mae Scratchworks yn ensemble o bedair menyw sy'n gweithio ar y cyd i greu theatr hynod weledol a chwareus o'r newydd. Maent yn defnyddio cymysgedd eclectig o symudiadau corfforol, pypedau a cherddoriaeth fyw sy'n synnu, diddanu ac ysbrydoli cynulleidfaoedd. Mae'r cwmni'n creu straeon gwreiddiol gyda'u cyfuniad unigryw o gerddoriaeth fyw, comedi a thwyll theatraidd.
Mae Scratchworks wedi teithio'r DU o'r blaen i leoliadau gan gynnwys Canolfan Gelfyddydau Battersea, Theatr Barbican Plymouth, Theatr Frenhinol Caerfaddon a'r Pleasance Dome yng Ngŵyl ‘Fringe’ Caeredin. Mae Cyngor Celfyddydau Lloegr yn cydnabod ac yn cefnogi eu gwaith.
Bydd sioe ‘WOMANS (like Romans but with a ‘W’)’ yn Sefydliad y Glowyr Coed Duon nos Fercher 19 Mehefin am 7.30pm. Cost tocynnau yw £14.50 / £12.50 i gonsesiynau ac maent ar gael o’r swyddfa docynnau ar 01495 227206 neu ar-lein ar www.blackwoodminersinstitute.com.
Os oes ymholiadau pellach gennych, cysylltwch â Katie Arthur ar 01495 224425 neu e-bostiwch arthuk1@caerffili.gov.uk.
Rhannwch y dudalen hon :
Rhannwch ar Facebook
Rhannwch ar Twitter
Newyddion Diweddar
Erlyn a dirwyo Dijla Ltd yn dilyn ymchwiliad y Cyngor
Disgyblion Plasyfelin yn dechrau plannu
Marchnad Nadolig Caerffili yn Llwyddiant Ysgubol
Rhaglen golchi dwylo yn mynd gyda'r llif
Disgyblion Ysgol Gynradd Cefn-y-pant yn creu llyfr i helpu eraill
Ymholiadau'r Cyfryngau
Cyfeiriad E-bost
Ffôn
Cyfeiriad
Gwasanaethau A i Y
A
B
C
Ch
D
Dd
E
F
Ff
G
Ng
H
I
L
Ll
M
N
O
P
Ph
R
Rh
S
T
Th
U
W
Y
Please help us improve our website...