Cabinet y Cyngor yn talu teyrnged i weithlu ‘anhygoel’
Postiwyd ar : 24 Meh 2020
Mae Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, a'r Cabinet, wedi talu teyrnged i'r staff ar draws y sefydliad am eu ‘hymdrechion anhygoel’ wrth gefnogi ymateb y Cyngor i coronafeirws.
Cafodd cyfarfod o bell cyntaf y Cabinet ei gynnal heddiw, gan ddefnyddio technoleg fideo-gynadledda, ac roedd un o'r adroddiadau allweddol ar yr agenda yn manylu ar ymateb y Cyngor i'r achos o coronafeirws hyd yma.
Dyma ddolen i'r fideo o gyfarfod y Cabinet:- https://youtu.be/gsggtOTeQVY
Meddai'r Cynghorydd Philippa Marsden, “Mae'n bwysig meddwl am yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni gyda'n gilydd, fel sefydliad, ers dechrau'r achos. Yn bwysicaf oll, hoffwn i ddiolch i'n holl weithlu am eu hymdrechion anhygoel yn ystod y misoedd diwethaf.
“Rydyn ni wedi gweld ethos ‘Tîm Caerffili’ yn dod i'r amlwg. Mae ein staff wedi cyd-dynnu i helpu ein cymunedau, gan gynnwys ein trigolion mwyaf agored i niwed a oedd â'r angen mwyaf.
“Rwy'n falch iawn o fod yn rhan ohono, ac rwy'n siŵr y bydd trigolion ledled y Fwrdeistref Sirol yn rhannu fy ngwerthfawrogiad.
“Mae ein staff ni wedi mynd ‘y tu hwnt i'r disgwyl’ drwy ddarparu ein gwasanaethau allweddol, ond hefyd drwy wynebu heriau logistaidd enfawr nad ydyn ni erioed wedi dod ar eu traws o'r blaen – fel paratoi ein hymgyrch prydau ysgol am ddim, gweithredu hybiau gofal plant ar gyfer gweithwyr allweddol, darparu grantiau sydd werth dros £30 miliwn ar gyfer busnesau lleol, a helpu ein trigolion agored i niwed yn ystod cyfnod pan fu'r angen mwyaf.
“Yn ariannol, rydyn ni'n cyfrif cost y pandemig coronafeirws, ond mae'r adroddiad yn manylu ar gostau ychwanegol o tua £4.5 miliwn ar gyfer chwarter cyntaf blwyddyn ariannol 2020/21. Mae'r ffigur hwn yn debygol o godi, a byddwn ni'n parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i geisio cyllid priodol ar gyfer y costau ychwanegol hyn.
“Mae'n amlwg nad ydyn ni eto allan o drafferthion, ac mae coronafeirws yn debygol o fod gyda ni am fisoedd lawer i ddod; ond, os ydyn ni'n parhau i gyflawni yn yr un modd ers dechrau'r achos, gall ein trigolion fod yn hollol sicr eu bod nhw mewn dwylo da iawn.”