News Centre

Cyngor Caerffili ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr TPAS Cymru

Postiwyd ar : 27 Meh 2022

Cyngor Caerffili ar y rhestr fer ar gyfer dwy wobr TPAS Cymru
Mae'n bleser gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gyhoeddi ei fod wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Cyfranogiad TPAS Cymru eleni.
 
Mae un o'r categorïau dan sylw yn cydnabod ei ddull o gynnwys cymunedau yn y gwaith o ran cyflawni gwelliannau amgylcheddol fel rhan o'r rhaglen i fodloni Safon Ansawdd Tai Cymru (SATC), sydd werth £260 miliwn.
 
Mae gwaith ei dîm Tai Pobl Hŷn hefyd wedi'i gydnabod drwy gyrraedd y rhestr fer yn y categori ‘Cefnogi lles tenantiaid a phreswylwyr’. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion y staff sy'n mynd ati i gefnogi preswylwyr agored i niwed yn ei gynlluniau tai lloches a thrwy ei wasanaeth cymorth hyblyg.
 
Mae Gwobrau Cyfranogiad cenedlaethol blynyddol TPAS Cymru yn dathlu arfer da o ran cynnwys tenantiaid a chymunedau mewn gwasanaethau cysylltiedig â thai ledled Cymru. Bydd enillwyr gwobrau 2022 yn cael eu cyhoeddi mewn digwyddiad dathlu ar 6 Gorffennaf.
 
Meddai'r Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet y Cyngor dros Dai, “Mae'n gyflawniad gwych i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer dau gategori yn y gwobrau mawreddog hyn, a hoffwn i longyfarch pawb dan sylw.
 
“Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i roi trigolion wrth galon y broses benderfynu a darparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae cyrraedd y rhestr fer yn y ddau gategori yn dangos ymdrechion Tîm Caerffili i gyflawni'r addewidion hyn a darparu gwasanaethau sy'n diwallu anghenion ein trigolion.”


Ymholiadau'r Cyfryngau