News Centre

Strategaeth y Gymraeg Pum Mlynedd 2022-2027 wedi'i lansio yn Ffiliffest

Postiwyd ar : 23 Meh 2022

Strategaeth y Gymraeg Pum Mlynedd 2022-2027 wedi'i lansio yn Ffiliffest
Cafodd Strategaeth y Gymraeg Pum Mlynedd 2022-2027 ei lansio yn Ffiliffest, digwyddiad a gafodd ei gynnal yng Nghaerffili i ddathlu’r Gymraeg a threftadaeth Cymru.

Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol yng Nghymru gynhyrchu strategaeth leol ar gyfer y Gymraeg sy'n nodi sut y byddan nhw'n hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg a chynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn eu hardal nhw.

Mae'r Strategaeth, a'r camau gweithredu cysylltiedig, wedi'u datblygu ar y cyd ag aelodau Fforwm y Gymraeg Caerffili, rhanddeiliaid allweddol a meysydd gwasanaeth y Cyngor ac ysgolion. 

Mae’r rhanddeiliaid sy’n ymwneud â datblygu Strategaeth y Gymraeg Pum Mlynedd 2022-2027 wedi'i diwygio yn cynnwys:
 
Pob Ysgol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Cymraeg i Oedolion Gwent
Pob Maes Gwasanaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili Helo Blod
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan Menter Iaith Caerffili
Clwb Busnes Caerffili Mudiad Meithrin
Gyrfa Cymru Y Rhwydwaith Rhieni
Coleg Gwent Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
Coleg y Cymoedd Cefnogi Pobl
Coleg Cymraeg Cenedlaethol Cynghorau Tref a Chymuned
Cynghorwyr Prifysgol De Cymru
Cymraeg i Blant Sector Wirfoddol – Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent (GAVO)
Gwasanaeth Cyflawni Addysg Yr Urdd
Heddlu Gwent  
 
Cafodd Strategaeth y Gymraeg Pum Mlynedd 2022-2027 ei chymeradwyo gan y Cabinet ar 9 Mawrth 2022 ac mae ar gael yma: www.caerphilly.gov.uk/CaerphillyDocs/Equalities/Welsh-Language/strategaeth-y-gymraeg-pum-mlynedd-2022-2027.aspx

Siaradodd y Cynghorydd Sean Morgan, Arweinydd Cyngor Caerffili, yn nigwyddiad Ffiliffest a dywedodd, “Mae’r strategaeth hon yn perthyn i bob un ohonom ni a dim ond mewn cydweithrediad â sefydliadau eraill sydd hefyd â chylch gorchwyl i gynyddu a chefnogi’r defnydd o’r Gymraeg y bydd yn bosibl ei chyflawni’n effeithiol.

“Rydyn ni am weld cynnydd o 4% yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn yr ardal hon dros y 5 mlynedd nesaf, ac mae’r strategaeth hon yn allweddol i’n helpu ni i gyflawni hyn.

“Rydw i’n hyderus y gallwn ni wneud i hyn ddigwydd, diolch i frwdfrydedd, egni ac ymroddiad pawb sy’n ymwneud â hyrwyddo’r Gymraeg ledled ein cymunedau ni ac rydw i'n edrych ymlaen at ein taith ni gyda’n gilydd dros y 5 mlynedd nesaf.”

Mae gweithredu Strategaeth y Gymraeg Pum Mlynedd 2022-2027 yn sicrhau bod y Cyngor yn bodloni ei rwymedigaeth gyfreithiol o dan Safonau 145 a 146 o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015. Bydd y camau gweithredu sydd yn y strategaeth yn galluogi’r Cyngor, mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, i hyrwyddo’r Gymraeg a hwyluso ei defnydd yn y Fwrdeistref Sirol am y pum mlynedd nesaf.


Ymholiadau'r Cyfryngau