News Centre

Partneriaeth Caerffili yn helpu trigolyn i gamu i fyd cyflogaeth

Postiwyd ar : 28 Meh 2022

Partneriaeth Caerffili yn helpu trigolyn i gamu i fyd cyflogaeth
Mae Anthony Rice, o Aberbargod, wedi llwyddo i ddod o hyd i waith yn natblygiad Pentref Gerddi'r Siartwyr, ym Mhontllan-fraith, oherwydd y bartneriaeth rhwng: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili; y darparwr tai, Grŵp Pobl; a'r datblygwr eiddo, Lovell.

Mae Pentref Gerddi'r Siartwyr yn gydweithrediad cyffrous a fydd yn arwain at ddatblygiad deniadol ar safle hen swyddfeydd y Cyngor – Tŷ Pontllan-fraith – ac yn cynnwys tai fforddiadwy yn nwy ran o dair o'r datblygiad. Bydd y datblygiad yn dilyn y cysyniad ‘pentref gardd’, gyda chartrefi yn y dull oesol celfyddyd a chrefft, wedi'u dylunio i safonau gofod gwell a'u hadeiladu o amgylch tirwedd o goed stryd, lleiniau glas a mannau gwyrdd agored.

Mae tîm Cymorth Cyflogaeth y Cyngor wedi bod yn gweithio'n agos gyda Pobl a Lovell i nodi cyfleoedd i helpu eu cyfranogwyr i ddod o hyd i gyflogaeth drwy'r datblygiad.

Fe gafodd Anthony ei helpu gan y tîm i gael ei gerdyn Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu (CSCS) a thystysgrif bancsmon, a oedd wedyn yn ei gymhwyso ar gyfer gwneud cais am y rôl porthor gyda Lovell. Yna, fe wnaeth y tîm Cymorth Cyflogaeth helpu Anthony drwy'r broses recriwtio, gan arwain at ei benodi i'r swydd.

Roedd y cymorth a gafodd ei ddarparu gan y tîm hefyd wedi galluogi Anthony i ddechrau ei gyflogaeth yn gynt na'r disgwyl. Meddai Anthony, “Rwy'n mwynhau yma, ac mae wedi bod yn braf cwrdd â phobl newydd. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y cymorth a gefais i gan bawb.”

Meddai'r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Hoffwn i longyfarch Anthony, a dymuno pob lwc iddo yn ei rôl newydd. Dyma enghraifft wych o Dîm Caerffili ar waith; mae'r buddsoddiad yn natblygiad blaenllaw Pentref Gerddi'r Siartwyr yn cael ei ddefnyddio fel catalydd i sicrhau buddion ehangach yn y gymuned leol.”

Meddai Ellis Cunliffe, Rheolwr Prosiectau, Grŵp Pobl, “Rydyn ni wrth ein bodd bod Anthony wedi cael cymorth i ennill y cymwysterau hyn, a'i fod bellach wedi'i benodi i'r rôl hon. Dyma enghraifft wych o'r buddion niferus ac amrywiol y gall datblygu cartrefi newydd eu rhoi i'r gymuned leol, ac rydyn ni'n dymuno bob llwyddiant iddo yn ei yrfa newydd.”


Ymholiadau'r Cyfryngau