News Centre

Mae digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog Caerffili yn agosáu

Postiwyd ar : 21 Meh 2022

Mae digwyddiad Diwrnod y Lluoedd Arfog Caerffili yn agosáu
Mae dathliad Diwrnod y Lluoedd Arfog arbennig yn agosáu a bydd yn cael ei gynnal yng Nghaerffili ddydd Gwener 24 Mehefin, gan roi cyfle i drigolion ddangos eu cefnogaeth nhw i'r dynion a'r menywod dewr hynny sy'n rhan o ein cymuned y Lluoedd Arfog ni.

Bydd digwyddiad dathlu Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei gynnal wrth y Senotaff yng Nghaerffili, ger Coffi Vista am 10.30am. Byddwn ni hefyd yn achub ar y cyfle i gyflwyno'n ffurfiol y sgrôl ar gyfer Rhyddid y Fwrdeistref Sirol sydd wedi'i rhoi i'r Lleng Brydeinig Frenhinol.

Dywedodd Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, y Cynghorydd Liz Aldworth, “Rydyn ni'n gefnogwyr brwd o’r Lluoedd Arfog yng Nghaerffili ac mae gallu cynnal y seremoni hon yn y gymuned unwaith eto yn arbennig iawn i ni. Rydw i’n falch iawn o allu cyflwyno’r sgrôl ar gyfer Rhyddid Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ffurfiol i’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn dilyn seremoni ffurfiol y Cyngor llawn yn gynharach eleni.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Teresa Heron, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, “Rydw i wrth fy modd y bydd y seremoni codi baner flynyddol yn dychwelyd eleni, gan roi cyfle gwych i drigolion ddangos eu cefnogaeth nhw a rhoi diolch i gymuned y Lluoedd Arfog. Rydw i’n annog trigolion i ddod draw i ddangos eich cefnogaeth chi!”


Ymholiadau'r Cyfryngau