News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn datgelu cynigion ‘Codi’r Gwastad’ uchelgeisiol gwerth £80m

Postiwyd ar : 21 Meh 2022

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn datgelu cynigion ‘Codi’r Gwastad’ uchelgeisiol gwerth £80m

Gallai'r gwibiwr alpaidd hiraf yn y Deyrnas Unedig gael ei adeiladu mewn cyrchfan boblogaidd i dwristiaid ym Mwrdeistref Sirol Caerffili os bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cytuno ar gynlluniau uchelgeisiol sy'n cael eu llunio gan y Cyngor.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ar fin cyflwyno tri phrosiect adfywio cyffrous gwerth cyfanswm o £80.6 miliwn i Gronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd Cabinet y Cyngor yn cyfarfod yr wythnos nesaf (dydd Mercher 29 Mehefin) i ystyried adroddiad sy’n manylu ar y cynigion a’u buddion nhw i’r gymuned.

Y tri chynnig arfaethedig yw:

  • ‘Canolfan Lles’ newydd gwerth £33.6 miliwn ar dir ym Mharc Busnes Caerffili i ddarparu cyfleusterau iechyd a lles o’r radd flaenaf yn lle canolfan hamdden bresennol y dref.
  • Cynllun uchelgeisiol gwerth £12 miliwn i ddarparu atyniadau newydd a gwell i ymwelwyr yng Nghoedwig Cwmcarn a’r gamlas gyfagos, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer y gwibiwr alpaidd hiraf yn y Deyrnas Unedig.
  • Cyfnewidfa trafnidiaeth gyhoeddus gwerth £35 miliwn yng nghanol tref Caerffili, gan gynnwys ailddatblygu'r orsaf bresennol yn ganolbwynt trafnidiaeth defnydd cymysg enghreifftiol. 

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Sean Morgan, “Os ydy'r cynigion yn cael eu cymeradwyo, byddai’r ceisiadau hyn yn dod â buddion enfawr o ran gwell iechyd a lles, gwell cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus a gwell atyniadau i ymwelwyr a fydd yn helpu hybu’r economi leol.

“Mae’r cynigion cyffrous hyn yn dangos ein gweledigaeth a’n huchelgais ni i gyflawni prosiectau mawr a fydd yn adfywio ein cymunedau ni ac yn arwain at newid cadarnhaol i drigolion lleol.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Mae'n rhaid i ni symud mor gyflym ag y gallwn ni i yrru’r Fwrdeistref Sirol yn ei blaen. Mae'r Cabinet newydd wedi bod yn gweithio bob awr o'r dydd ar y cynigion hyn i sicrhau ein bod ni'n cyflwyno'r cynigion erbyn y dyddiad cau tynn. Mae’r prosiectau hyn yn newyddion mawr i’r Fwrdeistref Sirol ac os bydd y Cabinet yn cytuno ar y cynigion, byddan nhw wedyn yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Mae'r ceisiadau hyn i Gronfa Codi’r Gwastad yn uchelgeisiol, ond maen nhw wedi'u hystyried a'u datblygu yn drylwyr. Rydyn ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhannu ein gweledigaeth ni ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.”

“Os ydyn nhw'n cael eu cymeradwyo, byddai angen cyflawni’r prosiectau erbyn mis Mawrth 2025, felly, mae’n amlwg bod yr arian hwn o Gronfa Codi’r Gwastad yn rhoi cyfle cyffrous ond heriol i sicrhau arian i gefnogi ein strategaeth adfywio uchelgeisiol ni.”

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi manylion yn ddiweddar am Rownd 2 o raglen Cronfa Codi’r Gwastad. Mae disgwyl i Gymru gael 5% o'r gyllideb o £4.8 biliwn sy'n cyfateb i tua £240 miliwn. Hyd yma, mae £120 miliwn eisoes wedi'i ddyrannu i brosiectau Rownd 1 yng Nghymru.  



Ymholiadau'r Cyfryngau