News Centre

Arweinydd newydd yn addo cyflawni

Postiwyd ar : 20 Mai 2022

Arweinydd newydd yn addo cyflawni
Y Cynghorydd Sean Morgan - Arweinydd y Cyngor

Mae Arweinydd newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi amlinellu ei weledigaeth i sicrhau gwelliant a ffyniant i drigolion yr ardal yn y dyfodol.

Wrth siarad yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor, amlinellodd y Cynghorydd Sean Morgan ei gynlluniau i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen, darparu gwerth am arian a chreu cymunedau lleol bywiog a llewyrchus.

“Rwy’n anelu at roi cyfeiriad clir i’r sefydliad ac rwyf am roi sicrwydd personol i holl drigolion y Fwrdeistref Sirol y byddaf yn gweithio’n ddiflino i wella ein cymunedau a bywydau pawb sy’n byw yma.”

“Byddaf yn parhau ar hyd y ffordd o foderneiddio’r sefydliad a gwella gwasanaethau’r Cyngor fel y mae Arweinwyr blaenorol wedi’i wneud.”

“Mae ein cymunedau a’r Cyngor hwn, fel pob ardal arall ledled Cymru, yn parhau i wynebu nifer o heriau sylweddol wrth i ni adfer ar ôl pandemig byd-eang. Mae gennym ni ystyriaethau newid hinsawdd enbyd, y rhyfel yn Wcráin gyda'i ôl-effeithiau niferus ac ystod o bwysau eraill sy'n effeithio ar ein gwasanaethau. Efallai mai’r pwysau mwyaf brys yw’r argyfwng costau byw cynyddol a’i effeithiau dinistriol ar ein cymunedau.

“Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen arweinyddiaeth gref a phendant i sicrhau y gall y Cyngor barhau i gyflawni newid cadarnhaol a byddaf yn darparu hyn. Mae’n anrhydedd ac yn ostyngedig derbyn y swydd,” ychwanegodd.

Cyhoeddodd y Cynghorydd Morgan hefyd ei Gabinet newydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol:

  • Y Cynghorydd Sean Morgan - Arweinydd y Cyngor
  • Y Cynghorydd Jamie Pritchard - Dirprwy Arweinydd a Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr  Hinsawdd
  • Y Cynghorydd Nigel George - Aelod Cabinet dros Wasanaethau Corfforaethol ac Eiddo
  • Y Cynghorydd Eluned Stenner - Aelod Cabinet dros Gyllid a Pherfformiad
  • Y Cynghorydd Carol Andrews - Aelod Cabinet dros Addysg a Chymunedau
  • Y Cynghorydd Shayne Cook - Aelod Cabinet dros Dai
  • Y Cynghorydd Julian Simmonds - Aelod Cabinet dros Briffyrdd a Thrafnidiaeth
  • Y Cynghorydd Elaine Forehead - Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol
  • Y Cynghorydd Philippa Leonard - Aelod Cabinet dros Gynllunio a Diogelu’r Cyhoedd
  • Y Cynghorydd Chris Morgan - Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd

Maer newydd Bwrdeistref Sirol Caerffili ar gyfer 2022/23 yw’r Cynghorydd Liz Aldworth a’r Dirprwy Faer yw’r Cynghorydd Mike Adams.

Mae manylion llawn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol i'w gweld yma (PDF)

 



Ymholiadau'r Cyfryngau