News Centre

Apêl Ymgyrch Siôn Corn 2021 y Cyngor

Postiwyd ar : 01 Tach 2021

Apêl Ymgyrch Siôn Corn 2021 y Cyngor
Mae Ymgyrch Siôn Corn flynyddol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn lansio heddiw!
 
Mae yna dros 600 o blant ledled y Fwrdeistref Sirol sydd mewn perygl o beidio â chael anrheg Nadolig eleni ac mae Ymgyrch Siôn Corn yn bwriadu darparu anrhegion i'r sawl sydd wedi'u henwebu gan eu gweithwyr cymdeithasol.
 
Eleni, bu'n rhaid i'n Hymgyrch Siôn Corn addasu o ganlyniad i'r pandemig cyfredol. O ganlyniad, ni allwn ni dderbyn anrhegion ac, felly,  rydyn ni'n gofyn i drigolion roi talebau rhodd neu arian. Yna, bydd gweithwyr cymdeithasol sydd â chyswllt uniongyrchol â'r teuluoedd yn prynu anrhegion i'r plant a'u dosbarthu i'r plant mewn pryd ar gyfer y diwrnod mawr.

I roi arian parod, gallwch ymweld â'n tudalen rhoi yma: Rhowch nawr

Dywedodd y Cynghorydd Shayne Cook, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, “Fel y llynedd, mae 2021 wedi bod yn flwyddyn anodd arall i bawb, felly, rydyn ni am sicrhau bod cymaint o blant â phosibl yn cael anrheg arbennig y Nadolig hwn. Mae Ymgyrch Siôn Corn yn achos mor deilwng a dim ond drwy roddion hael gan drigolion a busnesau y mae'r ymgyrch yn gallu cael ei chyflawni.
 
"Ar ran Siôn Corn a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, hoffwn i ddiolch i bawb sy'n cyfrannu tuag at yr ymgyrch am eich cymorth parhaus, ac rwy'n gwybod y bydd Ymgyrch Siôn Corn 2021 yr un mor llwyddiannus â blynyddoedd blaenorol."
 
Gall unrhyw un sy'n dymuno cyfrannu at yr ymgyrch e-bostio YmgyrchSionCorn@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866577.
 
Byddwch chi'n cael gwybodaeth am sut i roi taleb rhodd neu roi rhodd arian drwy e-ffurflen ddiogel ar wefan y Cyngor.
 
Y gwerth sydd wedi’i awgrymu ar gyfer pob taleb/cerdyn rhodd neu rodd arian yw £10.00.
 
Gallwch chi bostio’r cardiau rhodd i ‘Ymgyrch Siôn Corn’, Tŷ Penallta, Parc Tredomen CF82 7PG neu eu gollwng yn y lleoliadau canlynol erbyn dydd Gwener 26 Tachwedd:
 
  • Y blwch post o flaen Tŷ Penallta, Parc Tredomen CF82 7PG.
  • Canolfan Hamdden Caerffili CF83 3SW.
  • Canolfan Hamdden Trecelyn NP11 5FE.
  • Canolfan Hamdden Heolddu CF81 9GF.
  • Canolfan Hamdden Rhisga NP11 6GH.
  • Canolfan Hamdden Cefn Fforest NP12 3JX.
  • Canolfan Hamdden Bedwas CF83 8BJ.
  • Llyfrgell Caerffili CF83 1JL.
  • Llyfrgell Bargod  CF81 8QR.
  • Llyfrgell Rhisga NP11 6BW.
  • Llyfrgell Rhymni, NP22 5NU.
  • YMCA Bargod CF81 8JA.
  • Apex Estate Agents, Bargod CF81 8QX.
  • Banc Barclays, Ystrad Mynach CF82 7AA.
  • Sefydliad y Glowyr, Coed Duon NP12 1AA.
  • Ysgol Gynradd Cwrt Rawlin CF83 1SN. 


Ymholiadau'r Cyfryngau