News Centre

Sylw ar gynllun buddsoddi gwerth £500 miliwn i drawsnewid bywydau a chymunedau

Postiwyd ar : 01 Tach 2021

Sylw ar gynllun buddsoddi gwerth £500 miliwn i drawsnewid bywydau a chymunedau
Yn gynharach eleni, dadorchuddiodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili lasbrint uchelgeisiol ar gyfer dyfodol yr ardal, a oedd yn cynnwys cynigion buddsoddi cyffrous gwerth cyfanswm o dros hanner biliwn o bunnoedd.
 
Mae Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, bellach yn arwain ymgyrch drawiadol sy’n dangos yn fanwl sut mae strategaeth fuddsoddi gyffrous y Cyngor, o’r enw'r cynllun Llunio Lleoedd, eisoes yn newid bywydau trigolion ledled y Fwrdeistref Sirol.
 
Yn gyfan gwbl, bydd y cynllun Llunio Lleoedd yn sicrhau buddsoddiad dros £500 miliwn ar draws pob rhan o'r Fwrdeistref Sirol. Mae'r arian wedi'i rannu'n dair rhan benodol:
£153 miliwn - y swm sydd wedi cael ei wario hyd yn hyn rhwng 2017 a 2020 ar becynnau buddsoddi mawr gan gynnwys datblygu ysgolion newydd, gwaith gwella priffyrdd gan gynnwys cylchdro Pwll-y-pant, gwella tai'r cyngor fel rhan o SATC a buddsoddiad mewn caeau 3G.
£129 miliwn - y buddsoddiad sydd ar y gweill ar hyn o bryd ar brosiectau sydd wedi'u cytuno megis dymchwel eiddo ar Fryn Hafodyrynys, datblygiad tai Gerddi'r Siartwyr, gwelliannau SATC a chyfleusterau hamdden gan gynnwys trac rhedeg newydd yn Oakdale a buddsoddiad cae 3G ychwanegol.

£231 miliwn - y buddsoddiad wedi'i gynllunio ar gyfer y dyfodol sy'n cynnwys ystod eang o gynigion a fydd yn destun ymgynghoriad ac ymgysylltu â'r gymuned fel rhan o'r sgwrs Llunio Lleoedd.Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, “Dyma’r buddsoddiad mwyaf i ni ei wneud erioed yn y Fwrdeistref Sirol, ac mae’n dangos ein hymrwymiad diwyro i wella cymunedau lleol trwy ddarparu gwasanaethau o’r crud i’r bedd sy’n addas at y diben ac yn gwella bywydau trigolion yn llwyr. Rydyn ni eisoes wedi gweld symiau enfawr o arian yn cael eu gwario mewn meysydd allweddol fel tai, addysg, priffyrdd, trafnidiaeth a hamdden gyda chynlluniau i fuddsoddi hyd yn oed mwy dros y blynyddoedd i ddod.”
 
Ychwanegodd, “Mae'r ymgyrch hon yn dod â'r buddsoddiad sylweddol hwn yn fyw ym mhob rhan o'r Fwrdeistref Sirol ac yn tynnu sylw at y gwahaniaeth y mae wedi'i wneud ar lefel unigol a chymuned. Yn bwysicach fyth, mae'n helpu i ganolbwyntio ein hymgysylltiad cymunedol ar gyfer y dyfodol gan ein bod ni i gyd yn rhan o Dîm Caerffili, felly mae'n hanfodol ein bod ni'n gweithio gyda'n gilydd i nodi'r buddsoddiad sydd ei angen i greu dyfodol llewyrchus ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol.”
 
Bydd gofyn i drigolion chwarae rhan hanfodol wrth helpu i lunio'r cynigion, trwy nodi darnau coll y jig-so i sicrhau bod y Cyngor yn targedu ei fuddsoddiad lle mae ei angen fwyaf. Bydd manylion ynghylch sut y gall y gymuned gymryd rhan yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.
 
Mae'r ymgyrch yn cynnwys animeiddiadau a graffeg atyniadol a fydd yn cynnwys llu o enghreifftiau o fuddsoddiad o ddatblygu ysgolion newydd, gwaith gwella priffyrdd, gwella tai'r cyngor, buddsoddi mewn caeau 3G a llawer mwy. Mae'r ymgyrch yn chwarae rhan allweddol yn y fframwaith Llunio Lleoedd gan ei bod wedi'i chynllunio i osod yr olygfa ac ennyn diddordeb trigolion i gymryd rhan wrth lunio eu dyfodol.
 
Am ragor o wybodaeth am y Fframwaith Llunio Lleoedd, ewch i https://www.caerphillyplaceshaping.co.uk/cy/
 


Ymholiadau'r Cyfryngau