News Centre

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i gynorthwyo trigolion wrth i gymorth ariannol Llywodraeth y DU ddod i ben

Postiwyd ar : 21 Hyd 2021

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn parhau i gynorthwyo trigolion wrth i gymorth ariannol Llywodraeth y DU ddod i ben

Gyda diwedd y dyrchafiad Credyd Cynhwysol, cynlluniau cymorth ffyrlo a hunangyflogedig, mae'r Cyngor a'i bartneriaid cymunedol wedi dod ag adnoddau ynghyd i alluogi trigolion i ddod o hyd i'r help a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.

Bydd y newidiadau yn effeithio ar lawer o drigolion ac efallai eu bod nhw'n poeni am sut y maen nhw'n mynd yn ymdopi, ond mae'r Cyngor, grwpiau cymunedol ac elusennau wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd trwy gydol y pandemig i sicrhau bod y cymorth cywir ar gael. 

Yn ystod y pandemig, mae'r cyngor a'i bartneriaid wedi addasu eu gwasanaethau i ddiwallu anghenion pobl a gafodd eu hachosi gan y cyfnodau cyfyngu symud a cholli incwm.

Gall y Cyngor helpu gydag ystod o wahanol faterion, gan gynnwys cydlynu gwasanaethau a chymorth y Cyngor, a chysylltu trigolion â gwasanaethau cymunedol fel:

Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden “Bydd diwedd y dyrchafiad Credyd Cynhwysol a diwedd ffyrlo yn achosi ansicrwydd i lawer o bobl sy’n byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, ond mae cymorth ar gael.”

“Ynghyd â phartneriaid cymunedol, gallwn ni ddarparu help gyda hanfodion fel bwyd, tanwydd a chyfleustodau, rheoli arian a dyled.

“Nawr bod cefnogaeth llywodraeth y DU yn dod i ben, efallai bod gan drigolion bryderon hefyd am Gyflogaeth, Tai a Budd-daliadau. Rydyn ni eisiau i bobl wybod ble i ddod o hyd i help a dechrau cynllunio nawr os ydyn nhw'n poeni am ymdopi y gaeaf hwn. Cysylltwch â ni os oes angen cymorth arnoch chi."



Ymholiadau'r Cyfryngau