News Centre

Dathlu'r gorau o fannau gwyrdd Caerffili

Postiwyd ar : 14 Hyd 2021

Dathlu'r gorau o fannau gwyrdd Caerffili
Mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi datgelu enillwyr Gwobr y Faner Werdd eleni, ac mae 15 o barciau a mannau gwyrdd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyflawni’r  marc rhyngwladol o ansawdd.
 
Unwaith eto, mae cyfleusterau Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi creu argraff ar y beirniaid, a bydd y Faner Werdd yn hedfan yn falch yn y mannau canlynol;
  • Mynwent Brithdir
  • Coedwig Cwmcarn
  • Parc Morgan Jones
  • Parc Cwm Darran
  • Tŷ Penallta
  • Parc Waunfawr, Crosskeys
  • Parc Ystrad Mynach 

Mae’r mannau hyn wedi’u cydnabod am eu cyfleusterau rhagorol i ymwelwyr, safonau amgylcheddol uchel, ac ymrwymiad i ddarparu man gwyrdd o ansawdd gwych.
 
Yn ogystal â’r cyfleusterau sy'n cael eu rhedeg gan yr awdurdod, mae nifer o’n grwpiau cymunedol hefyd yn dathlu gwobr haeddiannol;
  • Rhandir Cymunedol Cwm Aber
  • Coed-y-werin, Caerffili
  • Parc Eco Cefn Fforest
  • Gardd Goffa Michael Williams
  • Rhandir Cymunedol Morgan Jones
  • Rhandiroedd Heol Shingrig
  • Mynwent Gymunedol Sant Andreas
  • Eglwys Martin Sant
  • Gardd Gymunedol Tyfaelog Sant
  • Rhandir Cymunedol Tretomos
  • Gerddi Addysgol Tarraggan
  • Gardd Gymunedol Waunfawr
  • Rhandir Windy Ridge 

Meddai'r Cynghorydd Nigel George, Aelod Cabinet dros Wastraff, Diogelwch y Cyhoedd a Strydoedd, “Rwyf wrth fy modd bod gennym ni gymaint o leoedd arobryn yn ein Bwrdeistref Sirol i drigolion eu mwynhau. Ynghyd ag ymdrechion rhagorol ein grwpiau cymunedol, sydd hefyd wedi llwyddo i greu lleoedd sydd wedi ennill gwobrau, rydyn ni'n parhau i greu lleoedd iach i alluogi pobl i fyw bywydau iach.”
 
Mae ein lleoedd arobryn yn cynnwys bron i 10% o'r rheini ledled Cymru sydd hefyd wedi derbyn Gwobr y Faner Werdd fawreddog a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd - o barciau gwledig a gerddi ffurfiol, i randiroedd, coetiroedd a mynwentydd.
 
Mae'r elusen amgylcheddol Cadwch Gymru’n Daclus yn cyflwyno rhaglen Gwobr y Faner Werdd yng Nghymru gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru. Gwirfoddolodd arbenigwyr mannau gwyrdd annibynnol eu hamser ar ddechrau’r hydref i feirniadu safleoedd ymgeisiol yn erbyn wyth o feini prawf llym, gan gynnwys bioamrywiaeth, glendid, rheolaeth amgylcheddol a chyfranogiad cymunedol.
 
Dywedodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, “Mae mannau gwyrdd yn hanfodol i iechyd meddwl a chorfforol, a thrwy gydol y pandemig, rydyn ni wedi gweld pa mor bwysig mae’r mannau hyn wedi bod i gymunedau lleol.  
 
“Mae gan Gymru dros draean o safleoedd cymunedol Baner Werdd y DU o hyd, ac mae’n rhagorol gweld rhagor o fannau yng Nghymru yn derbyn Gwobr y Faner Werdd a Gwobr Gymunedol y Faner Werdd.  
 
“Mae’r tirweddau hyn yn chwarae rhan hanfodol yn cyflwyno ecosystemau cyfoethog a chymunedau bywiog a chydnerth, ac rydw i'n llongyfarch pob safle am ddarparu cyfleusterau a digwyddiadau rhagorol drwy’r flwyddyn ar gyfer pobl yng Nghymru.”
 
Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd y Faner Werdd ar gyfer Cadwch Gymru’n Daclus, “Dangosodd y pandemig i ni pa mor bwysig yw parciau a mannau gwyrdd o ansawdd da i’n cymunedau. Gyda rhagor o ymwelwyr nag erioed yn mwynhau ein mannau gwyrdd, hoffwn i longyfarch gwaith caled staff a gwirfoddolwyr sydd wedi cynnal safonau rhagorol yn y safleoedd hyn.”
 
I weld ein holl fannau gwyrdd, ewch i greenspacescaerphilly.co.uk/cy/
 


Ymholiadau'r Cyfryngau