News Centre

Cynllun gwirfoddolwyr campau dŵr newydd i bawb rhwng 16 ac 85 oed

Postiwyd ar : 12 Hyd 2021

Cynllun gwirfoddolwyr campau dŵr newydd i bawb rhwng 16 ac 85 oed
Mae Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gynnig cyfle anhygoel fel gwirfoddolwr campau dŵr i helpu darparu rhaglenni nofio ar draws ein canolfannau hamdden.
 
Mae'r cynllun ar gael ar gyfer unigolion angerddol, egnïol, llawn hwyl rhwng 16 ac 85 oed. Bydd gwirfoddolwyr yn rhan o ddatblygu a chefnogi'r genhedlaeth nesaf i ddysgu un o'r sgiliau bywyd mwyaf gwerthfawr.
 
Fel rhan o'r cynllun gwirfoddolwyr, bydd cyfle i unigolion ennill cymwysterau nofio sy'n cael eu cydnabod yn genedlaethol a symud ymlaen i gyflogaeth am dâl fel athro nofio wrth weithio i Adran Chwaraeon a Hamdden sydd wedi'i henwebu am wobrau ac sydd wedi'i chydnabod yn genedlaethol.
 
Os oes diddordeb gennych chi mewn ymuno â'n tîm ardderchog ac rydych chi am lansio eich gyrfa i gyfeiriad gwahanol a chael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch joness@caerffili.gov.uk.


Ymholiadau'r Cyfryngau