News Centre

Arweinydd yn cefnogi parhau â Gorymdaith Cofio

Postiwyd ar : 20 Hyd 2021

Arweinydd yn cefnogi parhau â Gorymdaith Cofio
Mae'r Arweinydd wedi cyhoeddi pecyn o gymorth i helpu Gorymdeithiau Dydd y Cofio a Gorymdeithiau Dydd y Cadoediad i fynd yn eu blaen.
 
Mae'r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â llawer o drefnwyr digwyddiadau dros y blynyddoedd i gynorthwyo o ran gwneud cais am gau ffyrdd ac ystyriaethau iechyd a diogelwch eraill. Mae disgwyl i'r bartneriaeth hanesyddol gryfhau gan y bydd y Cyngor nawr yn dod yn gyfrifol am ddarparu Gorchmynion Cau Ffyrdd, arwyddion a staff i reoli traffig a goruchwylio cyffyrdd yn ogystal â darparu'r yswiriant ar gyfer y digwyddiad. 
 
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, “Mae'r 18 mis diwethaf wedi bod yn heriol iawn i bawb, ac rydw i'n ymwybodol iawn o'r heriau sy'n wynebu trefnwyr y digwyddiadau eleni. Mae trefnwyr lleol yn ymfalchïo'n fawr mewn trefnu digwyddiadau ingol o'r fath, ac rydw i'n teimlo ei bod yn arbennig o bwysig gwneud yr hyn a allwn ni i helpu'r digwyddiadau hyn i barhau.
 
Parhaodd, “Yn wir arddull Tîm Caerffili, byddwn ni'n cronni ein hadnoddau i weithio law yn llaw â'r gymuned i galfaneiddio ein partneriaeth ac, wrth gwrs, i alluogi'r digwyddiadau i weithredu'n llyfn ac yn ddiogel.”
 
I gael gwybod a yw'ch digwyddiad cymunedol yn cael ei gynnal, cysylltwch â'ch cangen leol o'r Lleng Brydeinig Frenhinol. 


Ymholiadau'r Cyfryngau