Gwaith dymchwel yn cychwyn yn Hafodyrynys
Postiwyd ar : 14 Hyd 2021
Philippa Marsden, Roedd y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Caerffili,
Mae cynllun dymchwel mawr i helpu gwella lefelau ansawdd aer ar Fryn Hafodyrynys yn cychwyn heddiw (dydd Iau 14 Hydref).
Bydd dros 20 eiddo yn cael eu dymchwel ar hyd y llwybr strategol allweddol hwn i fynd i'r afael â phroblemau llygredd ar y safle.
Y llynedd, cynigiwyd setliad ariannol hael i breswylwyr ar gyfer prynu eu cartrefi er mwyn caniatáu i'r cynllun symud ymlaen, ac fe wnaeth y contractwyr gychwyn y gwaith dymchwel 14 wythnos heddiw.
Roedd y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Caerffili, ar y safle i weld y cynllun yn cychwyn. “Mae'r Cyngor, ynghyd â'r gymuned gyfan, yn croesawu cychwyn y gwaith dymchwel hwn, a fydd o'r diwedd yn mynd i'r afael â'r problemau ansawdd aer hirsefydlog ar y safle hwn.
“Rydyn ni wedi gorfod dilyn proses hir a chymhleth i gyrraedd yma, ond trwy hyn i gyd, rydyn ni bob amser wedi rhoi buddiannau preswylwyr Hafodyrynys yn gyntaf.”
“Fe wnaethon ni archwilio nifer o opsiynau, ond bydd dymchwel yr eiddo hwn yn caniatáu i ni sicrhau cydymffurfiad ag ansawdd aer yn yr amserlen fyrraf bosibl.”
Bydd y gwaith yn lleihau'r lefelau uchel o lygredd ac yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd a lles y preswylwyr sy'n weddill, y gymuned ehangach a'r rhai sy'n teithio trwy'r ardal.
Ychwanegodd y Cynghorydd Marsden, “Hoffwn i ddiolch i'r gymuned am eu hamynedd, eu cydweithrediad a'u hadborth trwy gydol y broses wrth ein helpu ni i ddod i'r casgliad hwn. Hoffwn i hefyd ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cymorth i'n helpu ni i ddod i'r casgliad cadarnhaol hwn ar gyfer Hafodyrynys."
Y contractwr ar gyfer y gwaith dymchwel yw Walters UK Ltd.