News Centre

Cyngor Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori yng Ngwobrau Gwasanaethau Blynyddol y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus!

Postiwyd ar : 01 Medi 2021

Cyngor Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer mewn tri chategori yng Ngwobrau Gwasanaethau Blynyddol y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus!
Mae Gwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn cydnabod y gorau o ran gwasanaethau rheng flaen llywodraeth leol ledled y Deyrnas Unedig, ac yn dilyn rownd drwyadl o feirniadu, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categorïau canlynol:
 
  • Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaeth Arlwyo
  • Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaethau Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant
  • Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Rheoleiddio

Mae ein gwasanaeth arlwyo ar y rhestr fer yn y categori 'Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaeth Arlwyo' am ei ymateb gwych yn darparu Prydau Ysgol Am Ddim yn ystod y pandemig.

Ym mis Mawrth 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai ysgolion yn cau ar unwaith oherwydd y pandemig COVID-19. Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn wynebu'r her o sut i ddarparu gwasanaeth prydau ysgol am ddim i dros 6,243 o ddisgyblion.

Dangosodd tîm arlwyo'r awdurdod lleol sgiliau entrepreneuriaeth, creadigrwydd ac arweinyddiaeth gadarn gan weithredu gwasanaeth darparu prydau ysgol am ddim i'r cartref sy'n cynnwys gweithio mewn partneriaeth â chyflenwyr lleol a dros 20 maes gwasanaeth yn yr awdurdod lleol.

Yn y categori 'Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaethau Chwaraeon, Hamdden a Diwylliant', mae Cyngor Caerffili ar y rhestr fer oherwydd ymddygiad gwych y tîm tuag at adleoli yn ystod y pandemig.

Yn ystod cyfnod o her eithriadol, mae'r Tîm Gwasanaethau Chwaraeon a Hamdden yng Nghaerffili nid yn unig wedi parhau i ddarparu amrywiaeth eang a gwahanol o gyfleoedd chwaraeon a hamdden egnïol, ond hefyd wedi defnyddio ei adnoddau i gefnogi ymateb y Cyngor i COVID-19.

Mae esiamplau o'r math o waith a gafodd ei wneud a'i gefnogi gan staff chwaraeon a hamdden yn cynnwys:
 
  • Cefnogi darparu 1.5 miliwn o brydau ysgol am ddim i deuluoedd ledled y Fwrdeistref Sirol
  • Cefnogi gweithredu a darparu'r system Tracio, Olrhain, Diogelu
  • Cefnogi ailagor Canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref y Fwrdeistref Sirol
  • Cefnogi cynllun 'Llinell Ofal' y Cyngor, gan ddarparu cymorth dros y ffon i rai o drigolion mwyaf agored i niwed y Fwrdeistref Sirol
  • Nifer o staff yn gwirfoddoli i helpu gyda chynllun 'Gofalu am Gaerffili' y Cyngor, a wnaeth cefnogi trigolion mwyaf agored i niwed y Fwrdeistref Sirol gyda phethau fel siopa, casglu presgripsiynau a mynd ar neges yn gyffredinol
  • Cyd-weithio ag Iechyd Cyhoeddus Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i sefydlu a darparu dros 72,000 o frechiadau fel rhan o Ganolfan Brechu Torfol y Fwrdeistref Sirol

Roedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y 'Tîm Gwasanaeth Gorau: Gwasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, Safonau Masnach a Rheoleiddio' ar gyfer ei Wasanaeth Olrhain Cysylltiadau.

Cafodd y tîm Tracio, Olrhain a Diogelu ei greu yn ystod cyfnod eithriadol i ddarparu gwasanaeth olrhain cysylltiadau yn y gymuned, gan gyflogi pobl leol i gefnogi'r gymuned yn ystod y pandemig.

Yng Nghymru, roedd y model darparu ar gyfer Olrhain Cysylltiadau yn wahanol i wledydd eraill y Deyrnas Unedig a chafodd ei ddarparu gan bob Awdurdod Lleol sydd wedi cydweithio gyda'i Fwrdd Iechyd rhanbarthol.

Bwriad y gwasanaeth oedd cydweithio i sefydlu gwasanaeth Olrhain Cysylltiadau i helpu adfer cymdeithasol ac economaidd ein cymunedau, mewn modd sy'n ddiogel ac sy'n amddiffyn y GIG a'n timau gofal cymdeithasol. Dechreuodd Caerffili ei wasanaeth gyda thîm o ddeugain o staff wedi'u hadleoli gan ddefnyddio model gweithio o bell. 

Mae'r tîm bellach yn gweithredu gwasanaeth olrhain cysylltiadau soffistigedig sy'n perfformio'n dda, sy'n hanfodol i'n hymateb i COVID-19 ac yn cynnig cefnogaeth a chyngor cynhwysfawr i'n dinasyddion i'w cynorthwyo i gydymffurfio â gofynion hunan ynysu i helpu cadw ein cymunedau'n ddiogel.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yng Nghinio Gwobrau Elusen Blynyddol y Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus, er budd Parkinson's UK, ar ddydd Iau 9 Medi 2021 yn Birmingham.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd Cyngor Caerffili, "Rydw i wrth fy modd bod Cyngor Caerffili wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn tri chategori yng Ngwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ymdrechu i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cymuned, felly mae'n wych gweld gwaith caled y tîm yn cael ei gydnabod ar raddfa genedlaethol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau