News Centre

Yn dod yn fuan – Coedwig Fach yng Nghaerffili

Postiwyd ar : 08 Medi 2021

Yn dod yn fuan – Coedwig Fach yng Nghaerffili
 Mae Climate Action Caerffili Gweithredu Hinsawdd (y Grŵp), grŵp cymunedol amgylcheddol lleol gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru ac mewn cydweithrediad â Chyngor Caerffili yn paratoi i blannu Coedwig Fach Caerffili ym Mharc Morgan Jones.

Mae Coedwig Fach yn goedwig frodorol wedi'i phlannu'n dynn sydd wedi'i chynllunio i dyfu hyd at 10 gwaith yn gyflymach na choedwig wedi'i phlannu'n draddodiadol ac sydd â llawer o fanteision i helpu lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae Coedwigoedd Bach yn amsugno 30 gwaith yn fwy o garbon, yn lleihau'r risg o lifogydd, yn lleihau llygredd sŵn ac aer ac yn cynyddu bioamrywiaeth leol yn fawr. I gael rhagor o wybodaeth am Goedwigoedd Bach, sganiwch ein cod QR. Hwn fydd y prosiect Coedwig Fach cyntaf dan arweiniad y gymuned yng Nghymru. 

Mae aelodau'r Grŵp wedi bod yn brysur yn ymgysylltu ag ysgolion a grwpiau lleol eraill i fesur bioamrywiaeth y safle cyn plannu fel y gallan nhw, dros amser, ddangos manteision y Goedwig Fach. Mae pedair ysgol leol wedi cymryd rhan mewn gweithdai gydag aelodau o'r Grŵp yn arwain gweithgareddau i adnabod y planhigion a'r pryfed ar y safle. Yn ystod misoedd Gorffennaf ac Awst, cynhaliodd y Grŵp ddau ddiwrnod ymgysylltu â'r cyhoedd hefyd lle roedd modd i aelodau o'r cyhoedd helpu i gofnodi'r rhywogaethau ar y safle. At ei gilydd, mae tua 200 o bobl wedi helpu'r Grŵp i gofnodi planhigion a phryfed ar y safle yr haf hwn.

Yn ddiweddar, mae aelodau'r Grŵp wedi gosod arwyddion i roi gwybod i bobl leol fod y Goedwig Fach yn dod yn fuan. Bydd gwaith gwella pridd yn cychwyn tua 20 Medi a bydd y Goedwig Fach yn cael ei phlannu yn fuan ar ôl hyn. Bydd y Goedwig Fach yn cynnwys ystafell ddosbarth awyr agored at ddefnydd ysgolion lleol ac mae rhai plant ysgol wedi helpu i ddylunio siâp y Goedwig Fach. Bydd ysgolion sydd wedi mynegi diddordeb yn cael eu gwahodd i helpu gyda'r gwaith plannu. Os hoffai unrhyw aelod o'r cyhoedd helpu gyda'r gwaith plannu, cysylltwch ag aelod o'r Grŵp.

Dywedodd Marianne, Cadeirydd y Grŵp, “Credwn ni y bydd Coedwig Fach Caerffili yn gwneud y dref yn fwy gwydn i newid yn yr hinsawdd ac y dylai helpu i leihau llifogydd ym Mharc Morgan Jones. Bydd yn helpu i wella ansawdd aer i drigolion lleol yn ogystal â bod yn adnodd i ysgolion lleol a'r gymuned ei ddefnyddio er mwynhad a dysgu.”

I gymryd rhan anfon e-bost i CACGH@googlegroups.com ewch i Facebook and Twitter: @cacgh01


Ymholiadau'r Cyfryngau