News Centre

Cymeradwyo buddsoddiad ar gyfer prosiectau adfywio Rhisga a Bargod

Postiwyd ar : 15 Medi 2021

Cymeradwyo buddsoddiad  ar gyfer prosiectau adfywio Rhisga a Bargod
Heddiw (15 Medi), mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cymeradwyo buddsoddiad o £130,000 i symud prosiectau adfywio arfaethedig ymlaen yn Rhisga a Bargod.
 
Cafodd buddsoddiad o £30,000 ei gymeradwyo i gynnal astudiaeth ddichonoldeb ar safle tir llwyd y tu ôl i Commerical Street yng nghanol tref Rhisga. Bydd yr astudiaeth yn ystyried opsiynau i ddatblygu'r safle yn ddatblygiad defnydd cymysg uchelgeisiol.
 
Fe wnaeth Aelodau'r Cabinet hefyd gymeradwyo buddsoddi £100,000 o Gronfa Datblygu y Bwrdd Prosiect Adfywio i ddelio ag eiddo adfeiliedig, gwag ac wedi'i danddefnyddio yng nghanol tref Bargod.
 
Dywedodd y Cynghorydd Eluned Stenner, Aelod Cabinet y Cyngor sydd â chyfrifoldeb am adfywio a datblygu economaidd: “Mae cymeradwyo'r buddsoddiad hwn yn newyddion i'w groesawu, a bydd yn ein galluogi ni i symud cynlluniau ymlaen i wella dwy o ganol trefi allweddol y Fwrdeistref Sirol.”


Ymholiadau'r Cyfryngau