News Centre

Anrhydedd fawreddog i Olympiaid lleol

Postiwyd ar : 15 Medi 2021

Anrhydedd fawreddog i Olympiaid lleol
Cymeradwyodd Cabinet Caerffili adroddiad yn unfrydol i argymell bod y Cyngor yn derbyn Rhyddfreiniwr Anrhydeddus y Fwrdeistref yn achos Lauren Price a Lauren Williams a lwyddodd i ennill medalau yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020. 
 
Mae'r adroddiad yn dilyn ‘Taith yr Arwyr’ hynod lwyddiannus yn nhrefi genedigol y rhai a enillodd fedalau a dadorchuddio Wal Enwogion Chwaraeon yn y Ganolfan Rhagoriaeth Chwaraeon, Ystrad Mynach.  
 
Fe wnaeth Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, ymuno ag Arweinwyr y gwrthbleidiau i enwebu'r athletwyr ar gyfer Rhyddfraint y Fwrdeistref i gydnabod eu cyflawniadau ysbrydoledig a rhagorol.
 
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Philippa Marsden, “Mae'n hanfodol ein bod ni'n cydnabod cyflawniadau gwych y menywod hyn yn ffurfiol. Maen nhw wedi cystadlu ar y lefel uchaf ac wedi dod â medalau adref, ac wedi gwneud i bawb yn Nhîm Caerffili deimlo'n falch dros ben. Roedd hynny'n amlwg pan wnaeth cannoedd o bobl sefyll yn y strydoedd i glapio a bloeddio yn ystod y digwyddiad croeso'n ôl yn ddiweddar. Y Rhyddfraint yw'r anrhydedd uchaf y gallwn ni, fel awdurdod, ei rhoi a bydd y penderfyniad ffurfiol yn cael ei wneud yn dilyn cyflwyniad i'r cyngor llawn yn ystod yr wythnosau nesaf.”


Ymholiadau'r Cyfryngau