News Centre

Dim Cynlluniau i gau Canolfannau Dydd

Postiwyd ar : 09 Medi 2021

Dim Cynlluniau i gau Canolfannau Dydd

Mae Arweinydd Cyngor Caerffili a’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol yn awyddus i fynd i'r afael â phryderon yn y gymuned am ddyfodol canolfannau dydd ledled y Fwrdeistref Sirol. 

Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn ymgynghori ar ddarparu canolfannau dydd ac yn ceisio adborth gan ddefnyddwyr gwasanaeth er mwyn darparu gwasanaeth modern sy’n addas at y diben yn y dyfodol.

Mae'r ymgynghoriad yn cau ddydd Gwener 10 Medi, ond rydym yn ymwybodol bod gwybodaeth anghywir yn cylchredeg yn y gymuned ynghylch cau’r canolfannau dydd a bod cyfarfod cyhoeddus wedi'i drefnu'r wythnos hon lle codwyd y pryderon anghywir hyn hefyd.

Dywedodd y Cynghorydd Philippa Marsden, Arweinydd y Cyngor, “Rwyf am sicrhau’r gymuned na fydd canolfannau dydd yn cau. Rydym yn ymgynghori i glywed barn y gymuned ynghylch sut y gallwn wella ein darpariaeth yn y dyfodol. Y peth olaf sydd ei angen arnom yw sïon di-sail a dyfalu yn ymledu yn y gymuned gan beri pryder diangen i rai o'n preswylwyr mwyaf bregus.”

Ychwanegodd yr Aelod Cabinet, y Cynghorydd Shayne Cook, “Unwaith y daw’r ymgynghoriad i ben, bydd dyfodol tymor hir y gwasanaeth yn cael ei drafod wyneb yn wyneb â defnyddwyr y gwasanaeth. Rydyn ni yma i wrando a dyma beth fyddwn ni'n ei wneud dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod. Byddwn yn gwrando'n ofalus ar y safbwyntiau sy’n cael eu mynegi  trwy'r sgyrsiau unigol hyn gan y byddant hefyd yn llywio siâp y gwasanaeth. Rydym yn poeni am ddefnyddwyr ein canolfannau dydd a'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu. Nid oes unrhyw gynlluniau i gau ar y gweill. Mae hyn yn ymwneud â siarad yn uniongyrchol â defnyddwyr y gwasanaeth am eu hanghenion unigol.”
 

 



Ymholiadau'r Cyfryngau