News Centre

Caerffili yn galaru ei Mawrhydi

Postiwyd ar : 10 Medi 2022

Caerffili yn galaru ei Mawrhydi
Mae bwrdeistref sirol Caerffili yn ymuno â gweddill y wlad a'r Gymanwlad i alaru marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
 
Baneri
Fel arwydd o barch, mae'r baneri ar safleoedd y cyngor yn cael eu chwifio ar hanner mast yn unol â'r protocol ffurfiol.
 
Llyfrau Cydymdeimlo
Mae Llyfrau Cydymdeimlo ar gael i’w harwyddo yn y lleoliadau canlynol o ddydd Gwener 9 Medi:
• Tŷ Penallta
• Sefydliad y Glowyr Coed Duon
• Canolfan Ymwelwyr Caerffili
 
Bydd llyfrau cydymdeimlo ychwanegol hefyd ar gael mewn llyfrgelloedd ac atyniadau ymwelwyr dros y dyddiau nesaf.
 
Proclamasiwn
Bydd darlleniad o'r Proclamasiwn ar esgyniad Sofran newydd yn cael ei gynnal ar ddydd Sul 11 Medi ar stepiau Canolfan Gymunedol y Twyn, Caerffili, CF83 1JL, am 4pm.
 
Cynghorir y cyhoedd i gyrraedd erbyn 3.45pm gan y bydd y seremoni yn cychwyn yn brydlon am 4pm.  Bydd Maes Parcio'r Twyn ar gau'r diwrnod hwnnw.
 
Busnes y Cyngor
Bydd gwasanaethau’r Cyngor yn rhedeg fel arfer drwy gydol y cyfnod galaru, er y bydd rhai cyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus yn cael eu canslo yn ystod y cyfnod hwn, yn unol â’r protocol yn ystod y cyfnod hwn o alaru cenedlaethol.


Ymholiadau'r Cyfryngau