News Centre

Amgueddfa'r Tŷ Weindio yn ennill Gwobr Sandford fawreddog

Postiwyd ar : 21 Medi 2022

Amgueddfa'r Tŷ Weindio yn ennill Gwobr Sandford fawreddog
Mae Amgueddfa’r Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd wedi llwyddo i gael Gwobr Sandford fawreddog am Addysg Treftadaeth 2022.

Yn rhan o Wasanaeth Amgueddfeydd a Threftadaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, mae’r Tŷ Weindio wedi cael y wobr i gydnabod ei waith yn datblygu a darparu rhaglenni addysg ar gyfer ysgolion lleol.

Mae dros 200 o safleoedd yn y Deyrnas Unedig wedi ennill Gwobr Sandford ar hyn o bryd, gan gynnwys amgueddfeydd ac orielau, adeiladau a gerddi hanesyddol, archifau a llyfrgelloedd, addoldai, a sŵau. Er mwyn cyflawni'r meini prawf asesu trwyadl, rhaid i sefydliadau ddangos eu bod nhw'n darparu addysg treftadaeth o ansawdd uchel.

Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, “Mae hwn yn gyflawniad gwych i’r Tŷ Weindio ac i ni fel Cyngor, a hoffwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran.

“Mae’r Tŷ Weindio yn lleoliad unigryw wedi'i adeiladu o amgylch tŷ weindio rhestredig Gradd 2* o’r 19eg ganrif ac injan weindio stêm.  Mae'n gweithredu fel hwb i'r gymuned leol, yn ogystal â chyrchfan ymwelwyr a chanolfan ddysgu.  Mae’r wobr fawreddog hon yn adlewyrchu’r amrywiaeth o gyfleoedd addysgol sy'n cael eu cynnig gan y Tŷ Weindio, ynghyd ag ymrwymiad ac ymroddiad y tîm sy’n gyfrifol.”

Ychwanegodd Susan Walker, Aseswr Arweiniol Gwobr Sandford, “Mae Amgueddfa’r Tŷ Weindio yn parhau i gynnig profiadau dysgu ymarferol o ansawdd uchel i blant ar safle unigryw. Mae’r gweithdai ysgol rhagorol wedi cael eu cynllunio’n ofalus ac yn feddylgar, a ph’un ai eu bod nhw'n cael eu cyflwyno ar y safle, ar-lein neu drwy allgymorth, maen nhw'n cael eu gwneud yn broffesiynol, gan roi cyfle i blant o bob oed ymgysylltu â hanes mewn ffordd gofiadwy, gyffrous a diddorol.”

Am ragor o wybodaeth am y Tŷ Weindio, ewch i: www.thewindinghouse.co.uk
 


Ymholiadau'r Cyfryngau