News Centre

​Pont Droed Wilkins Terrace – gwaith adnewyddu

Postiwyd ar : 14 Medi 2022

​Pont Droed Wilkins Terrace – gwaith adnewyddu
​Pont Droed Wilkins Terrace.

Yn rhan o raglen gyfredol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i gynnal a chadw asedau, bydd gwaith adnewyddu yn cael ei wneud ar Bont Droed Wilkins Terrace o ddydd Gwener 16 Medi 2022 am chwe wythnos.

Mae'r Cyngor yn bwriadu dadosod Pont Droed Wilkins Terrace a gwneud y gwaith cynnal a chadw oddi ar y safle. Bydd hyn yn lliniaru'r effaith ar draffig ar yr A468/A469. Y bwriad yw cau'r A468/A469 dros nos er mwyn hwyluso'r broses o ddadosod prif rychwant y bont droed a'r rampiau mynediad dros dro, a'r broses o'u hailosod wedyn.

Bydd cerddwyr a beicwyr yn cael eu dargyfeirio i gylchfan Pwll-y-pant i ddefnyddio'r groesfan i gerddwyr bresennol sydd â goleuadau traffig yn lle defnyddio'r bont droed sy’n cael ei dadosod dros dro.

Yn ystod y gwaith o symud y bont, bydd yr A468/A469 ar gau rhwng Cylchfannau Pwll-y-pant a Threcenydd. Bydd llwybr gwyro ar waith o ystyried y bydd y ffordd hon ar gau. Bydd y llwybr gwyro arfaethedig yn arwain traffig o allt Nantgarw ar hyd.

  • yr A470 i gylchfan Abercynon,
  • drwy Nelson ac Ystrad Mynach (A472),
  • yna, yn ôl ar yr A469 tuag at Gylchfan Pwll-y-pant. 

Bydd traffig sy'n teithio tua'r gorllewin yn dilyn y llwybr gwyro uchod i'r cyfeiriad arall.

Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra a diolch i chi am eich cydweithrediad. 
 



Ymholiadau'r Cyfryngau