Canolfan Newyddion

Bwletin Newyddion
Bydd y ffordd ar gau ddydd Sul (16 Ebrill) rhwng 7am a 6pm i ganiatáu mân waith atgyweirio i'r ffordd gerbydau. Bydd arwyddion y gwyriad wedi'u gosod. Bydd y ffordd hefyd ar gau y dydd Sul canlynol (23 Ebrill) – amseroedd i’w cadarnhau. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Cafodd Morgan Daniel, 12 oed ac o Nelson, ei wahodd i fynd ar daith breifat o amgylch pencadlys Tŷ Penallta Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili i ddathlu iddo ennill cystadleuaeth enwi trên a gafodd ei gynnal gan Trafnidiaeth Cymru.
Bydd digwyddiad poblogaidd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, "Pa Ffordd Nawr?", yn dychwelyd ar 24 Ebrill 2023.
Mae bron i £1 miliwn ar fin bod ar gael i symud ymlaen â gwelliannau hir-ddisgwyliedig i'r briffordd ar yr A469 rhwng Pontlotyn a Thredegar Newydd.
Mae mannau gwefru cerbydau trydan wedi cael eu gosod ar ddau safle swyddfa Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae disgwyl i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddatblygu'r fferm solar fwyaf yng Nghymru sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd. Dyma hefyd y Datblygiad o Arwyddocâd Cenedlaethol cyntaf dan arweiniad y Cyngor i gael ei ddilysu gan Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru.