FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cronfa Loteri Fawr: Pawb a’I Le

Mae Pawb a’i Le: grantiau maint canolig yn cynnig grantiau rhwng £10,001 a £100,000 ar gyfer prosiectau sy'n gweld pobl a chymunedau'n gweithio ar y cyd a defnyddio eu cryfderau i gael effaith gadarnhaol ar y pethau sydd fwyaf pwysig iddyn nhw.

Pwy all ymgeisio?

Gallwch ymgeisio os ydych yn un o'r canlynol ac wedi'ch lleoli yn y Deyrnas Unedig:

  • grŵp gwirfoddol neu gymunedol
  • elusen gofrestredig
  • cydweithfa
  • menter gymdeithasol neu gwmni buddiant cymunedol
  • cwmni nid er elw sy'n gyfyngedig trwy warant
  • mudiad statudol fel awdurdod iechyd, bwrdd iechyd neu ysgol

Beth yw lefel y grant sydd ar gael?

Pa mor aml mae ceisiadau grant yn cael eu hystyried?

Nid oes dyddiad cau. Mae Pawb a’i Le ar agor trwy’r flwyddyn.

Cyswllt

Ffôn 0300 123 0735 or e-bost cymru@cronfaloterifawr.org.uk

Mae sefydliadau eraill sydd yn rhoi grantiau Loteri yn ogystal â Chronfa’r Loteri Fawr. Gallwch ddysgu am y rhain trwy ymweld â ww.lotteryfunding.org.uk neu wrth ffonio’r llinell boeth ariannu ar 0845 275 0000, ffôn testun 0845 275 0022.