Cronfa Ymddiriedolaeth Gwaddol Ysgol Amaethyddol Sir Fynwy

I gefnogi myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau sy’n seiliedig ar y tir neu amaeth. Caiff blaenoriaeth ei rhoi i’r rhai sydd o dan 25 oed. Yr ardal a fydd yn elwa o’r cynllun grantiau yw’r hen Sir Fynwy fel yr oedd yn 1956 a bydd yn cynnwys cymunedau’n cynnwys Rhymni, Abertyswg, Tredegar Newydd, Aberbargod, Markham, Pengam,Cefn Fforest, Coed Duon, Pontllan-fraith, Oakdale, Crymlyn, Trecelyn, Maes-y-cwmwr, Abercarn, Cwmfelin-fach, Crosskeys, Rhisga, Bedwas a Machen.

Pwy all wneud cais am grant?

Myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau sy’n seiliedig ar amaeth a phynciau cysylltiedig mewn unrhyw goleg neu fyfyrwyr prifysgol fel myfyriwr amaeth neu bynciau cysylltiedig (h.y. cwrs astudiaethau amaethyddol, astudiaethau milfeddygol, astudiaethau ceffylau, coedwigo, gwaith gof, ayyb).

Sut i ymgeisio

Mae modd lawrlwytho ffurfl en gais oddi ar wefan Cyngor Sir Fynwy www.monmouthshire.gov.uk/app/uploads/2014/04/Monmouthshire-Farm-Endowment-Trust-Application-Form.pdf neu drwy ffonio’r tîm Cyllid i Blant a Phobl Ifainc ar 01633 644994. Anfonwch eich ffurfl en gais sydd
wedi’i llenwi at y Tîm Gwobrau i Fyfyrwyr, Cyllid i Blant a Phobl Ifainc, Blwch Postio 106, Cil-y-coed, NP26 9AN

Beth yw lefel y Grant sydd ar gael?

Gofynnir i’r myfyrwyr restru’r eitemau unigol o wariant a chaiff y rhain eu hystyried gan yr Ymddiriedolwyr. Caiff unrhyw ddyfarniad ei wneud ar sail y wybodaeth sydd wedi’i nodi ar y ffurfl en gais.

Pa mor aml mae ceisiadau grant yn cael eu hystyried?

Ddwywaith y fl wyddyn ym mis Hydref a mis Ionawr.