Cynllun cymorth tanwydd gaeaf 2022/2023

Mae'r Cynllun Taliad Tanwydd y Gaeaf bellach wedi cau

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r Cynllun Cymorth Tanwydd er mwyn rhoi cymorth i aelwydydd cymwys yn ardal Bwrdeistref Sirol Caerffili i dalu eu biliau tanwydd.

Bydd angen i bawb sy’n credu eu bod yn gymwys gyflwyno cais gan ddefnyddio’n ffurflen ar-lein, a fydd ar gael o 9.00am ddydd Llun 26 Medi 2022, tan 5.00pm ddydd Mawrth 28 Chwefror 2023.

Gall aelwydydd cymwys ym Mwrdeistref Sirol Caerffili hawlio taliad untro o £200 gennym ni.

Does dim gwahaniaeth sut rydych chi’n talu am eich tanwydd, boed hynny drwy fesurydd talu ymlaen llaw neu ddebyd uniongyrchol, neu drwy dalu bil bob chwarter, a gellir hawlio'r £200 ni waeth a ydych yn defnyddio tanwydd ar y grid neu oddi ar y grid.

Gall ymgeiswyr hawlio taliad cymorth tanwydd ar gyfer eiddo yng Nghymru, ar yr amod mai'r eiddo hwn yw eu prif breswylfa.

Mae'r taliad hwn yn ychwanegol at yr ad-daliad biliau ynni sy'n cael ei gynnig gan Lywodraeth y DU a'r Taliad Tanwydd Gaeaf sy'n cael ei dalu fel arfer i bensiynwyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Pwy sy’n gallu hawlio Taliad Cymorth Tanwydd?      

Llywodraeth Cymru sydd wedi penderfynu ar y rheolau ynghylch cymhwysedd ar gyfer Taliadau Cymorth Tanwydd. Nid oes gennym unrhyw ddisgresiwn i wneud taliadau y tu allan i'r rheolau hynny.

GALLWCH chi hawlio os:

Mai chi sy'n uniongyrchol gyfrifol am dalu’r biliau tanwydd ar gyfer yr eiddo rydych chi'n byw ynddo. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd eich enw(au) yn ymddangos ar unrhyw filiau a gyhoeddir gan y cyflenwr. Os nad ydych chi wedi'ch enwi ar y bil tanwydd, ni fyddwch chi’n gymwys i gael taliad. 

Os na chaiff biliau eu rhoi i aelwyd sy'n uniongyrchol gyfrifol am gostau tanwydd, efallai oherwydd eich bod chi’n defnyddio mesurydd rhagdaledig, yna efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael Taliad Cymorth Tanwydd ond efallai y bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth mai chi sy'n gyfrifol am y costau tanwydd.

Mae ymgeiswyr yn bodloni'r amod o fod yn gymwys ar gyfer tanwydd os ydyn nhw (neu eu partner) yn atebol i dalu Treth y Cyngor, gan fod eu hatebolrwydd i dalu Treth y Cyngor yn dangos eu bod yn atebol i dalu am danwydd.

Aelwydydd Cymwys

Mae Llywodraeth Cymru'n diffinio aelwyd gymwys ar gyfer y cynllun hwn fel yr esbonnir isod:

Person Sengl

  • Rydych chi’n gwneud cais i’r cynllun erbyn 5.00pm ar 28 Chwefror 2023
  • Rydych chi’n uniongyrchol gyfrifol am dalu'r biliau tanwydd ar gyfer eich cartref. Eich enw chi sydd ar y bil neu gyfrif
  • Rydych chi’n derbyn un o'r budd-daliadau cymwys sydd wedi’u rhestru isod ar unrhyw adeg rhwng Medi 2022 a 31 Ionawr 2023:
    • Gostyngiad Treth y Cyngor (Noder: Gostyngiad Treth y Cyngor, e.e. Nid yw gostyngiad person sengl yn fudd-dal cymwys)
    • Cymorthdal Incwm
    • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
    • Credyd Cynhwysol
    • Credyd Treth Gwaith
    • Credyd Treth Plant
    • Credyd pensiwn
    • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
    • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
    • Lwfans Gweini
    • Lwfans Gofalwyr - Mae hwn yn cynnwys pobl sydd yn derbyn Lwfans Gofalwyr yn ogystal a phobl sydd wedi hawlio Lwfans Gofalwyr ond ddim yn ei derbyn fel budd-dal arian parod oherwydd rheolau budd-daliadau sy’n gorgyffwrdd h.y. os oes ganddyn nhw hawl sylfaenol at Lwfans Gofalwyr
    • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau/Dull Newydd
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Gyfraniadau/Dull Newydd
    • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
    • Lwfans Gweini Cyson
    • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
  • Nid ydych chi wedi derbyn taliad dan y cynllun hwn o'r blaen.

Cyplau

  • Rydych chi, neu'ch partner, yn gwneud cais i'r cynllun erbyn 5.00pm ar 28 Chwefror 2023
  • Rydych chi, eich partner, neu'r ddau ohonoch chi’n uniongyrchol gyfrifol am dalu biliau tanwydd ar gyfer eich cartref. Mae un o'ch enwau neu enwau'r ddau ohonoch chi ar y bil/cyfrif
  • Rydych chi neu'ch partner yn derbyn un o'r budd-daliadau cymwys a restrir isod ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023:
    • Gostyngiad Treth y Cyngor  (Noder: Gostyngiad Treth y Cyngor, e.e. Nid yw gostyngiad person sengl yn fudd-dal cymwys)
    • Cymorthdal Incwm
    • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
    • Credyd Cynhwysol
    • Credyd Treth Gwaith
    • Credyd Treth Plant
    • Credyd pensiwn
    • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
    • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
    • Lwfans Gweini
    • Lwfans Gofalwyr - Mae hwn yn cynnwys pobl sydd yn derbyn Lwfans Gofalwyr yn ogystal a phobl sydd wedi hawlio Lwfans Gofalwyr ond ddim yn ei derbyn fel budd-dal arian parod oherwydd rheolau budd-daliadau sy’n gorgyffwrdd h.y. os oes ganddyn nhw hawl sylfaenol at Lwfans Gofalwyr
    • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Gyfraniadau/Dull Newydd
    • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Gyfraniadau/Dull Newydd
    • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
    • Lwfans Gweini Cyson
    • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel
  • Nid ydych chi na'ch partner wedi derbyn taliad dan y cynllun hwn o'r blaen, naill ai fel person sengl neu fel rhan o'r un cwpl neu gwpl gwahanol.

Os nad yw deiliad tŷ (neu ei bartner) sy'n atebol i dalu'r biliau tanwydd yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau cymhwyso

Ystyrir bod y deiliad cartref yn gymwys am daliad os oes ganddo berson (oedolyn arall neu blentyn dibynnol) yn byw gydag ef, sy'n:

  1. Byw yng nghartref y deiliad tŷ gan taw dyma yw ei brif breswylfa; ac yn

  2. Derbyn un o'r budd-daliadau canlynol ar unrhyw adeg rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Dim ond un Taliad Cymorth Tanwydd y bydd aelwyd yn gallu ei hawlio. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fydd unrhyw un sydd eisoes wedi derbyn taliad dan y cynllun, naill ai fel person sengl neu fel rhan o'r un cwpl neu gwpl gwahanol, yn gallu hawlio ail daliad.
 
Sylwer: os oes gennych hawl i un o'r budd-daliadau yn y rhestr uchod ond nad ydych eisoes yn derbyn cymorth gyda'ch Treth y Cyngor, dylech gwneud cais ar-lein am ostyngiad yn Treth y Cyngor https://eforms.caerphilly.gov.uk/eclaims/default_cy.htm

Cyd-berchnogion/cyd-denantau

Bydd cyd-berchnogion/cyd-denantiaid sydd ddim yn rhan o gwpl h.y. os ydych chi’n hawliwr/preswylydd sengl, yn gallu cyflwyno cais fel aelwydydd gwahanol.

Er enghraifft:

Mae pedwar o bobl yn byw mewn eiddo, cwpl a 2 feddiannydd sengl. Maen nhw i gyd yn atebol am Dreth y Cyngor ac maen nhw’n atebol ar y cyd am y biliau tanwydd ar gyfer yr eiddo y maen nhw’nn byw ynddo. Mae pob un ohonyn nhw wedi'u henwi ar y biliau sy’n cael eu hanfon gan y cyflenwyr.

Gan dybio bod yr amodau eraill wedi'u bodloni:

  • gall y 2 feddiannydd sengl hawlio £200 yr un
  • gall y cwpl hawlio un taliad o £200 rhyngddynt

Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn y bydd y cymorth a ddarperir drwy'r Cynllun Cymorth Tanwydd o fudd anghymesur i'r mathau hyn o drefniadau byw.

Tystiolaeth sy’n ofynnol ar eich cais

Pobl a wahoddir i gyflwyno cais

O'r wybodaeth sydd gennym ni eisoes am Ostyngiad Treth y Cyngor a rhai hawliadau Budd-dal Tai, rydyn ni wedi gallu nodi miloedd o bobl sy'n debygol o fod â hawl i'r taliad.

Bydd pobl yn y grŵp hwn yn derbyn llythyrau yn eu gwahodd i wneud cais.

Pobl na chânt eu gwahodd i gyflwyno cais am daliad ond mae'n bosibl eu bod nhw’n gymwys

Gall unrhyw berson sydd ddim yn derbyn llythyr erbyn 23 Medi 2022, ond sy'n credu ei fod yn gymwys ar gyfer Taliad Cymorth Tanwydd, barhau i wneud cais a dylai wneud hynny'n ddi-oed. Efallai y bydd angen i chi lanlwytho tystiolaeth mai chi yw'r person sy'n gorfod talu am y biliau tanwydd.

Os gofynnir i chi ddarparu prawf eich bod yn gyfrifol am y biliau tanwydd ar gyfer eich cartref, bydd y dystiolaeth ganlynol yn dderbyniol:

  • Cwsmeriaid sy’n derbyn bil:
    • Copi digidol o bil diweddar neu anfoneb am danwydd oddi ar y grid
    • Sgrinlun/llun o fil diweddar
    • Sgrinlun o enw a chyfeiriad y cyfrif o gyfrif ar-lein/dangosfwrdd y rhaglen
    • Copi papur o fil diweddar
  • Cwsmeriaid sy’n defnyddio mesurydd rhagdaliedig:
    • E-bost cadarnhau o ychwanegiad rhagdaledig diweddar
    • Sgrinlun o fesurydd safonol neu ddyfais mesurydd deallus o'r eiddo (dylai mesuryddion deallus ddangos cofnod o symiau ychwanegol)
    • Sgrinlun o enw a chyfeiriad y cyfrif o ddangosfwrdd cyfrif ar-lein/ap (cwsmeriaid mesurydd deallus yn unig)
    • Derbynneb PayPoint/tebyg yn dangos rhagdaliad ychwanegol diweddar
  • Cwsmeriaid sydd ddim ar y grid:
    • Anfoneb ddiweddar sy'n dangos y prynwyd tanwydd sydd ddim ar y grid

Cyn cyflwyno cais

Sicrhewch fod gennych yr wybodaeth ganlynol wrth law:

  1. Eich rhif Yswiriant Gwladol.

  2. Os oes gennych chi bartner, ei rif Yswiriant Gwladol nhw

  3. Eich llythyr gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn eich gwahodd i gyflwyno cais am daliad Cymorth Tanwydd, os ydych chi wedi derbyn un. Bydd angen peth o'r wybodaeth yn y llythyr hwn arnoch chi.

  4. Os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad i gyflwyno cais gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ac nad oes rhaid i chi dalu Treth y Cyngor, efallai y bydd angen i chi lanlwytho tystiolaeth eich bod chi’n gyfrifol am dalu'r bil tanwydd ar gyfer eich cartref. Mae enghreifftiau o dystiolaeth dderbyniol yn y tabl uchod.

  5. Os nad ydych chi (neu'ch partner) yn derbyn un o'r budd-daliadau cymhwys ond mae gennych chi blentyn dibynnol neu oedolyn arall yn byw gyda chi sy'n bodloni'r meini prawf uchod, bydd angen i chi hefyd ddarparu ei enw, ei ddyddiad geni a'i rif yswiriant gwladol.

Cofiwch

  • Fyddwn ni byth yn cysylltu â chi i ofyn am ffi i dalu am y gost o gyflwyno cais am Daliad Cymorth Tanwydd.
  • Fyddwn ni ddim yn cysylltu â chi i ofyn am eich manylion banc a manylion ariannol eraill dros y ffôn oni bai eich bod chi’n cysylltu â ni yn gyntaf i ofyn am help oherwydd ni allwch chi lenwi'r ffurflen gais eich hun. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi roi'r holl fanylion sydd eu hangen arnom ni we mwyn i ni eich helpu.
  • Os ydych yn amau a yw'r person sy'n siarad â chi am eich Taliad Cymorth Tanwydd yn gweithio i'r Cyngor, rhowch y ffôn i lawr a ffoniwch yr Is-adran Budd-daliadau ar budd-daliadau@caerffili.gov.uk.

Cyflwyno Cais Ar-lein

Bydd angen i bawb sy’n credu eu bod yn gymwys gyflwyno cais gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein a fydd ar gael o 26 Medi 2022.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5.00pm, dydd Mawrth 28 Chwefror 2023

Os na fyddwch chi’n cyflwyno cais erbyn y dyddiad cau, fyddwn ni ddim yn gallu gwneud Taliad Tanwydd i chi. Nid oes gennym ni ddisgresiwno ran y pwynt hwn a rhaid i ni ddilyn rheolau Llywodraeth Cymru.

Os ydych yn cael problemau wrth lenwi'r ffurflen gais, cysylltwch â ni a byddwn ni’n gallu'ch helpu chi gyda'r ffurflen:

Ar ôl i chi gyflwyno cais

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd i'r Cyngor gymeradwyo fy nghais a gwneud taliad?

Ar gyfer y rheini sydd wedi cael eu gwahodd i wneud cais oherwydd ein bod ni’n gwybod eu bod yn atebol i dalu Treth y Cyngor ac sydd â'r hawl i Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth y Cyngor, bydd taliadau yn cael eu gwneud yn fuan ar ôl derbyn eu cais.

I bawb arall, bydd ceisiadau'n cymryd mwy o amser i'w prosesu gan y bydd angen gwneud croeswiriadau ychwanegol i gadarnhau eu bod yn gymwys. Mae hon yn dasg enfawr ac er y bydd staff ychwanegol yn cael eu symud o ddyletswyddau eraill i brosesu'r ceisiadau, efallai y bydd peth amser cyn i chi dderbyn eich taliad. Ar gyfer y grŵp hwn, mae taliadau'n debygol o ddechrau cael eu gwneud yn ystod mis Hydref 2022 a byddan nhw’n parhau tan ddiwedd mis Mawrth 2023.

Beth fydd yn digwydd os caiff fy nghais ei gymeradwyo?

Byddwn ni’n anfon e-bost i'r cyfeiriad e-bost a darparoch i roi gwybod i chi bod eich cais wedi'i gymeradwyo. Bydd y taliad yn eich cyfrif banc dri diwrnod gwaith ar ôl i'r e-bost hwnnw gael ei anfon, ar ôl iddo fynd drwy'r system fancio

Beth os na chaiff fy nghais ei gymeradwyo?

Bydd eich cais yn cael ei wrthod os nad ydych chi’n bodloni'r meini prawf cymhwysedd. Byddwn ni’n anfon e-bost atoch chi i esbonio pam nad ydych chi’n bodloni'r meini prawf cymhwysedd.

Os ydych chi o'r farn ein bod wedi gwneud camgymeriad, neu os ydych chi wedi anghofio anghofio dweud rhywbeth perthnasol wrthon ni yn eich cais, yna gallwch e-bostio budd-daliadau@caerffili.gov.uk a byddwn ni’n gwirio a oes camgymeriad wedi'i wneud.

Os oes camgymeriad wedi'i wneud - byddwn ni’n ei gywiro ac yn rhoi gwybod i chi drwy e-bost.

Os nad oes camgymeriad wedi'i wneud ac rydyn ni wedi penderfynu'n gywir nad oes gennych chi hawl i Daliad Cymorth Tanwydd - byddwn ni’n anfon e-bost atoch chi i gadarnhau'r penderfyniad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau nad oes hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.