Cynllun Cymorth Costau Byw
Mae manylion cynllun Llywodraeth Cymru ar gael yma.
Isod mae rhai o bwyntiau allweddol y cynllun.
Mae’r Cynllun yn cynnwys 2 elfen; prif gynllun (yn ymwneud â rhai talwyr treth y cyngor) a chynllun dewisol. Mae pob awdurdod lleol yng Nghymru yn penderfynu ar ei gynllun dewisol ei hun o fewn canllawiau Llywodraeth Cymru (LlC); bydd manylion cymhwysedd yn cael eu cyhoeddi yn ystod mis Mai.
Mae’r prif gynllun yn darparu ar gyfer taliad ‘Costau Byw’ o £150 o dan ddau amod:
A: Amod Hawlio Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor
Os oedd y deilia(i)d tŷ yn cael cymorth drwy Gynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor ar 15 Chwefror 2022, asesir bod ganddo/ganddynt hawl i gael taliad o £150 yn awtomatig waeth beth fo'r band prisio y mae ei eiddo/eu heiddo ynddo (A i I).
B: Amod Bandiau'r Dreth Gyngor
Asesir bod gan aelwydydd sy'n meddiannu eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor hawl i gael taliad o £150 ar yr amod eu bod yn bodloni pob un o'r meini prawf canlynol:
- yn atebol i dalu'r dreth gyngor ar eiddo ar 15 Chwefror 2022
- ddim wedi cael eithriad ar gyfer yr eiddo hwnnw ar 15 Chwefror 2022
- yn byw yn yr eiddo hwnnw fel eu prif breswylfa ar 15 Chwefror 2022
- yn gyfrifol am dalu'r biliau cyfleustodau cysylltiedig a biliau eraill yr eir iddynt yn rheolaidd ar gyfer yr eiddo hwnnw ar 15 Chwefror 2022.
Mae aelwydydd sy'n byw mewn eiddo a brisiwyd fel Band E ond sy'n derbyn gostyngiad yn y band i Fand D oherwydd anabledd yn gymwys o dan y prif gynllun.
Nid yw'r £150 yn ad-daliad ar fil treth y cyngor, mae'n daliad i helpu gyda chostau cynyddol yr holl filiau cyfleustodau.
Bydd UN taliad i bob cartref cymwys.
Os nad ydych chi'n gymwys o dan y prif gynllun, efallai eich bod chi'n gymwys ar gyfer cael taliad o dan y cynllun disgresiynol.
Bydd y mwyafrif o drethdalwyr sy'n cael eu heithrio rhag talu'r dreth (er enghraifft, cartref sy'n cynnwys myfyrwyr cymwys yn gyfan gwbl, y rhai sy'n gadael gofal hyd at 25 oed, neu bobl â nam meddyliol difrifol) yn dod o dan y cyfnod ddewisol o'r cynllun.
Cychwynnodd y prif gynllun ym mis Ebrill, ond, gan y gallai tua 70,000 o aelwydydd ym Mwrdeistref Sirol Caerffili fod yn gymwys, bydd yn cymryd sawl mis i gwblhau'r taliadau. Bydd y cynllun yng Nghymru yn rhedeg am tua 6 mis tan 30.09.2022.
Os ydych chi'n talu eich Treth y Cyngor chi drwy ddebyd uniongyrchol, rydyn ni'n gallu gwneud y taliad yn uniongyrchol i'ch cyfrif banc chi, heb fod angen i chi gofrestru eich manylion chi gyda ni. Fe wnaethon ni roi'r mwyafrif o'r taliadau hyn yn ystod wythnos olaf mis Ebrill, a rhoi rhai yn ystod mis Mai.
Os ydych wedi sefydlu cyfarwyddyd debyd uniongyrchol yn ddiweddar i dalu eich bil treth gyngor, byddwn yn casglu eich taliad debyd uniongyrchol treth gyngor cyntaf cyn i ni roi’r taliad ‘Cost-Byw’ o £150 i chi. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y manylion banc sydd gennym ar eich cyfer yn gywir ac i leihau twyll a chamgymeriadau.
Yn achos yr holl dalwyr Treth y Cyngor cymwys eraill, mae prif gynllun Llywodraeth Cymru yn gofyn am broses gofrestru.
O wythnos olaf mis Mai, dros gyfnod o tua 8 wythnos, rydyn ni'n anfon tua 5,000 o lythyrau bob wythnos i aelwydydd rydyn ni'n credu eu bod nhw, o bosibl, yn gymwys ar gyfer cael cymorth, gan eu gwahodd nhw i gofrestru eu manylion gan ddefnyddio'r ffurflen ar-lein isod.
Os nad oes gennych chi fynediad i'r rhyngrwyd, ffoniwch ni ar 01443 863230 a gallwn ni lenwi'r ffurflen ar-lein ar eich rhan wrth i chi roi eich manylion i ni dros y ffôn.
Os nad oes gennych chi gyfrif banc a fydd yn derbyn y taliad hwn, gallwch chi ofyn i berthynas neu ffrind y gallwch chi ymddiried ynddo i roi manylion ei gyfrif banc a rhywfaint o'u gwybodaeth bersonol ar y ffurflen gofrestru er mwyn i ni allu rhoi'r taliad i'r person hwnnw, a gall y person hwnnw roi'r arian i chi ar ôl i'r taliad ddod i law.
Cyn cofrestru ar gyfer y Taliad Cymorth Costau Byw
Cyn y gallwn ni wneud taliad, bydd angen i chi gofrestru rhai manylion gyda ni drwy lenwi'r ffurflen ar-lein isod. Bydd peth o'r wybodaeth rydyn ni'n gofyn amdani yn ein helpu ni i leihau twyll a chamgymeriadau wrth wneud y taliadau hyn.
Cyn i chi gofrestru, gwnewch yn siŵr bod gennych chi'r canlynol:
- Rhif eich cyfrif Treth y Cyngor (mae hwn ar y llythyr rydyn ni'n ei anfon atoch chi; bydd y rhif hefyd ar eich bil Treth y Cyngor)
- Enw eich cyfrif banc
- Cod didoli eich banc a rhif eich cyfrif
- Eich cyfeiriad e-bost
- Rhif ffôn cyswllt
- Eich dyddiad geni
- Eich cyfeiriad presennol a'ch cod post
Os ydych chi'n gofyn i berthynas neu ffrind y gallwch chi ymddiried ynddo i roi ei fanylion ar y ffurflen gofrestru er mwyn i ni allu rhoi'r taliad i'r person hwnnw, a gall y person hwnnw roi'r arian i chi ar ôl i'r taliad ddod i law, gwnewch yn siŵr bod gennych chi'r canlynol:
- Rhif eich cyfrif Treth y Cyngor (mae hwn ar y llythyr rydyn ni'n ei anfon atoch chi; bydd y rhif hefyd ar eich bil Treth y Cyngor)
- Enw a chyfeiriad y person dan sylw
- Enw cyfrif banc y person dan sylw
- Cod didoli'r banc a rhif y cyfrif ar gyfer y person dan sylw
- Dyddiad geni'r person dan sylw
- Eich cyfeiriad e-bost
- Eich rhif ffôn cyswllt
- Eich cyfeiriad presennol a'ch cod post
Eich Taliad
Pan fyddwn ni wedi gwneud penderfyniad, fe wnawn ni anfon e-bost atoch chi i roi gwybod a ydych chi wedi bod yn llwyddiannus. Oherwydd y nifer fawr o gofrestriadau rydym yn disgwyl eu derbyn, bydd taliadau'n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl cyn i'r cynllun gau ar 30.09.2022.
Os ydy'ch cyfrif banc mewn gorddrafft, gallwch chi ofyn i'ch banc sicrhau bod yr arian o'r taliad costau byw yn cael ei ddefnyddio ar gyfer biliau penodol mae angen i chi eu talu yn hytrach na chael ei ddefnyddio i glirio'ch gorddrafft. Mae hyn yn cael ei alw'n ‘hawl cyntaf i neilltuo’. Mae llythyr enghreifftiol a chyngor ar sut i ofyn i'ch banc am hyn ar gael drwy'r ddolen ganlynol i'r Llinell Ddyled Genedlaethol.
Cofrestru eich manylion ar gyfer y Taliad Costau Byw
Noder: Os ydych chi'n talu eich Treth y Cyngor drwy ddebyd uniongyrchol, nid oes angen i chi gofrestru.
Cofrestrwch Nawr
Dyddiad cau ar gyfer cofrestru: 5.00pm, Dydd Gwener 30 Medi 2022
Sylwch, ni fydd y ffurflen hon yn gweithio o fewn Internet Explorer. Defnyddiwch borwr mwy modern fel Edge, Chrome neu Safari
Bydd y ddolen hon yn cymryd chi i Cyswllt Caerffili. Cofrestrwch nawr neu mewngofnodwch i adrodd, ymgeisio neu i dalu am wasanaethau. Os nad ydych am greu cyfrif, cliciwch ar ‘Parhau heb gofrestru’. Edrychwch yn eich ffolder e-bost sothach/sbam am neges actifadu cyfrif a negeseuon hysbysu oddi wrthym!
Byddwch yn amyneddgar â ni gan ein bod ni'n disgwyl gwneud miloedd o daliadau, felly, byddwn ni'n brysur iawn yn ceisio helpu llawer o ddeiliaid tŷ.
Rydyn ni'n annog trigolion i fod yn ystyriol o e-byst, negeseuon testun neu alwadau ffôn o ffynonellau amheus sy'n cynnig gwybodaeth am y cynllun, oherwydd gallai hyn fod gan rywun sy'n ceisio dwyn eich gwybodaeth bersonol chi, megis manylion eich cyfrif banc chi.