Seremonïau dinasyddiaeth

Mae'r broses yn dechrau pan fyddwch yn gwneud cais i'r Swyddfa Gartref am ddinasyddiaeth Brydeinig.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd y Swyddfa Gartref yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i gysylltu â'ch swyddfa gofrestru leol i drefnu i fynychu seremoni ddinasyddiaeth.

Ar yr un pryd, mae'r Swyddfa Gartref yn cysylltu â ni ac yn anfon eich 'tystysgrif o ddinasyddiaeth Brydeinig'. Byddwn wedyn yn ysgrifennu atoch, gan roi manylion am ein seremoni nesaf a threfniadau eraill os bydd arnoch eu hangen.

Cynhelir ein seremonïau mewn grwpiau, sy'n cynnwys rhwng 5 a 10 person fel arfer, ond mae'r niferoedd yn dibynnu ar y galw. Mae croeso i chi ddod â gwesteion gyda chi i'r seremoni.

Mae'n rhaid i chi fynychu seremoni ddinasyddiaeth os ydych yn byw yn y DU ar y pryd.

Yn ystod y seremoni

Bydd y Cofrestrydd Arolygu (neu ddirprwy) yn cynnal y seremoni, a lle bo'n bosibl, bydd urddasolyn lleol yn bresennol i'ch croesawu i'r fwrdeistref sirol.

Ar ôl areithiau i'ch croesawu, fe fydd rhaid i chi wneud 'llw o deyrngarwch' ac addewid. Mae hyn yn golygu y byddwch yn addo i barchu hawliau, rhyddidau a deddfau'r DU.

Yna bydd yr urddasolyn byddwch yn cyflwyno eich 'tystysgrif o ddinasyddiaeth Brydeinig' i chi.

I gael rhagor o wybodaeth am seremonïau dinasyddiaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru.  

Privacy Notice

Hysbysiad preifatrwydd gwasanaeth cofrestru (PDF)

Cysylltwch â ni