FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd

Y dyddiad cau i’r rhan fwyaf o bobl wneud cais i Gynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd oedd 30 Mehefin 2021.

Os ydych chi neu'ch teulu yn dod o'r Undeb Ewropeaidd, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ neu Liechtenstein, gallwch wneud cais o hyd os oeddech chi neu aelod o'ch teulu yn byw yn y erbyn 31 Rhagfyr 2020. Rhaid i chi hefyd naill ai:

  • bodloni un o'r meini prawf ar gyfer dyddiad cau hwyrach ar gyfer gwneud cais
  • bod â ‘seiliau rhesymol’ dros beidio â gwneud cais erbyn 30 Mehefin 2021

Gallwch hefyd wneud cais os oes gennych statws cyn-sefydlog eisoes, a’ch bod yn gwneud cais am statws sefydlog.

Efallai y bydd mod di chi aros yn y Deyrnas Unedig heb wneud cais - er enghraifft, os ydych yn ddinesydd Gwyddelig, neu os oes gennych eisoes ganiatâd amhenodol i ddod i mewn neu aros.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael naill ai statws preswylydd sefydlog neu statws cyn-sefydlog.

Pwy all wneud cais?

Gellir dod o hyd i wybodaeth am bwy sydd angen gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog ar wefan Gov.uk. Mae'r wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth am sut y gallwch wneud cais. Mewn rhai achosion gellir gwneud cais ar-lein ond efallai y bydd yn rhaid i eraill gyflwyno cais â llaw.

Rhagor o wybodaeth am y Cynllun Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd

Y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE - cymorth a chyngor

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio gwefan newydd i gronni a hyrwyddo’r ystod o gymorth sydd ar gael i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy’n byw yng Nghymru. Gweler y ddolen isod:


www.eusswales.com/cy/ 

Gwirio dogfennau adnabod

Os ydych eisiau sganio'ch dogfen adnabod ar eich pen eich hun, bydd angen ffôn neu lechen arnoch; gall fod eich ffôn neu'ch llechen eich hun, neu ffôn neu lechen rhywun arall.

Os nad oes gan eich ffôn symudol neu ddyfais arall gyfathrebu agos (‘NFC’), gallwch drefnu apwyntiad i ddod â'ch dogfen adnabod atom, lle gellid ei sganio a'i gwirio i chi. Yna, byddwch yn gallu gwneud cais am statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog.

Ni fydd angen i ni gadw eich dogfen adnabod ac, yn y rhan fwyaf o achosion, ni fydd gofyn i chi anfon eich pasbort i unrhyw le arall yn ystod eich cais am statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog.

Noder, os ydych eisoes wedi cyflwyno'ch cais am statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog, bydd angen i chi bostio'ch dogfen adnabod i'r Swyddfa Gartref, hyd yn oed os byddwch yn mynychu Gwasanaeth Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd yr awdurdod lleol. Os ydych wedi rhoi cynnig ar hunanwasanaeth ac wedi cyflwyno'ch cais heb gwblhau'r broses gwirio dogfennau adnabod, cysylltwch â'r Swyddfa Gartref: https://www.gov.uk/contact-ukvi-inside-outside-uk/y/inside-the-uk/eu-settlement-scheme-settled-and-pre-settled-status

Os ydych chi’n bodloni'r meini prawf ac yn dymuno trefnu apwyntiad i ddefnyddio GWIRIAD DOGFENNAU ADNABOD Y Gwasanaeth Preswylio'n Sefydlog i Ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd:

Dewch â'r canlynol i'ch apwyntiad:

  • eich pasbort biometrig presennol dilys yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir neu Drwydded Breswyl Fiometrig ddilys ar gyfer aelodau teulu dinesydd yr Undeb Ewropeaidd, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir;
  • ffôn symudol sy'n gallu derbyn negeseuon testun neu ddyfais sy'n gallu derbyn e-bost.

Dim ond y dogfennau adnabod a restrir uchod sy'n gallu cael eu gwirio gennym. Os nad oes gennych un o'r dogfennau adnabod hyn, cliciwch ar y ddolen isod i weld eich opsiynau.

Cost y gwasanaeth yw £14 (gan gynnwys TAW).

Cysylltwch â ni