Drwy ddefnyddio’r safle we hwn, rydych yn cytuno i’n defnydd ni o gwcis. Cliciwch am fwy o fanylion.
Caerphilly Logo
Cofrestrwch i dderbyn e-byst hysbysu
  • Skip to content
  • Hygyrchedd
  • Cysylltwch â ni
  • Y ganolfan newyddion
  • Fy nhudalennau
  • English
  • Tasgau poblogaidd
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
  • Tasgau poblogaidd
    • Swyddi gwag
    • COVID-19 - Yr wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion
    • Gwybodaeth Brechlyn COVID-19
    • Cefnogi Pobl – cymorth yn ymwneud â thai
    • Gwneud cais, adrodd, gofyn, talu
    • Ysgolion, dyddiadau tymor a chau ysgolion
    • Gwastraff heb ei gasglu
    • Amserlenni bysiau
    • Canolfannau ailgylchu
    • Credyd Cynhwysol (yn lle Budd-daliadau Tai)
    • Cyngor a chymorth am lifogydd
    • Diwrnodau casglu gwastraff
  • Preswylydd
  • Busnes
  • Pethau i'w gwneud
  • Y Cyngor
  • Cymerwch ran
A allaf helpu?
CORONAFEIRWS (COVID-19) : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf
  • Preswylydd    Genedigaethau, priodasau, marwolaethau    Priodasau a phartneriaethau sifil    Seremonïau yn Nhŷ Penallta

Seremonïau yn Nhŷ Penallta

Gwybodaeth am coronafeirws: Mae ymlacio rhai rheoliadau sy'n caniatáu i bobl deithio i fynd i briodasau neu bartneriaethau sifil wedi golygu y gellir cynnal rhai seremonïau a chofrestriadau nawr. O 1 Gorffennaf 2020, bydd Gwasanaeth Cofrestru Caerffili yn ail-gychwyn seremonïau yn Nhŷ Penallta. Fodd bynnag, mae'r rheolau a'r rheoliadau cyfredol yn golygu bod y niferoedd sy'n gallu bod yn bresennol yn gyfyngedig iawn. Yn y swyddfa gofrestru statudol - y cwpl ynghyd â 2 dyst. Yn ystafell seremonïau Craig Penallta - y cwpl ynghyd â 10 gwestai.
Mae gennym ddwy ystafell yn Nhŷ Penallta lle gallwn gynnal seremonïau priodasol neu bartneriaethau sifil: Craig Penallta a’r Swyddfa Gofrestru Statudol.

Craig Penallta

Gall hyd at 70 o westeion eistedd yn gyffyrddus yma, ond byddai yr un mor addas i nifer dipyn llai. Mae’r ystafell wedi’i lleoli ar y llawer isaf sydd yn rhoi mynediad hawdd i bramiau bach a rhai gydag anabledd.

Mae’r ystafell seremoni wedi’i dodrefnu yn safonol iawn, sy’n gwneud yn yn lleoliad delfrydol i’ch seremoni.

Swyddfa Gofrestru Statudol

Ystafell fechan ond un ddeniadol yw hon. Yma gall cyplau briodi neu ffurfio partneriaethau sifil ym mhresenoldeb dau dyst.

Talu am seremonïau

Yn ychwanegol at gost rhoi rhybudd, mae’n rhaid talu hefyd am seremonïau a gynhelir yn Nhŷ Penallta. Am fanylion ar y ffioedd diweddaraf ewch i’r dudalen ffioedd a thaliadau am briodasau a phartneriaethau sifil ar ein gwefan.  

Gwneud eich seremoni yn fwy personol

Gallwch lunio eich seremoni yn ôl eich dymuniad. Gallwch gynnwys darlleniad, neu ddarn o farddoniaeth neu ychwanegu eich addunedau ac addewidion personol i’ch gilydd.

Yng Nghraig Penallta mae modd cerdded drwy ganol yr ystafell fel y gwneir mewn priodasau traddodiadol pe mynnech a gallwch ychwanegu hoff ddarn o gerddoriaeth. Mae modd mynd allan hefyd mewn modd ffurfiol i gloi'r seremoni a hynny i gyfeiliant cerddoriaeth neu rhywbeth sy’n arbennig i’r cwpl. Gallwch ddewis cerddoriaeth o blith y rhestrau sydd gennym i’w gynnig, neu gallwch ddarparu eich cerddoriaeth eich hun.

Ni ddylai unrhyw newidiadau gynnwys unrhyw elfennau crefyddol a bydd angen i’n cofrestryddion eu cymeradwyo cyn y diwrnod.

Ewch i'n tudalen “Eich diwrnod chi, eich ffordd chi” i gael ragor o wybodaeth.

Recordio a thynnu lluniau

Bydd digon o gyfleoedd ar gael i dynnu lluniau yn ystod ac ar ôl y seremoni. Mae yna leoliadau yn ystafell y seremoni ac o’i chwmpas lle gellir tynnu lluniau, gyda gardd goediog braf y gellir ei defnyddio i dynnu lluniau yng nghefn Tŷ Penallta.

Caniateir recordio'r seremoni ar fideo hefyd.

Gweld lluniau o'r ystafell seremoni a'r tiroedd ar Flickr

Lleoliadau eraill a gymeradwyir

Mae yno leoliadau eraill a gymeradwyir ar gyfer priodasau a phartneriaeth sifil drwy’r fwrdeistref sirol. Ewch i’n gwefan o’r lleoliadau a gymeradwyir i gael manylion.

Cysylltwch â ni
  • E-bost
  • Ffôn
  • Cyfeiriad
Facebook Rhannwch ar Facebook
Twitter Rhannwch ar Twitter
 
Rhowch Adborth
Ychwanegwch at fy nhudalennau
 
Print this
Gwasanaethau A i Y
  • A
  • B
  • C
  • Ch
  • D
  • Dd
  • E
  • F
  • Ff
  • G
  • Ng
  • H
  • I
  • L
  • Ll
  • M
  • N
  • O
  • P
  • Ph
  • R
  • Rh
  • S
  • T
  • Th
  • U
  • W
  • Y

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol ac ymunwch â'r sgwrs


Am brofiad gwell, edrychwch ar y wefan hon ar Internet Explorer 11 neu uwch, Mozilla Firefox 27 neu uwch, Safari 7 neu uwch, Chrome 30 neu uwch, Opera 12 neu uwch neu feddalwedd borwr gyfwerth.

  • Ymwadiad
  • Hawlfraint
  • Polisi Preifatrwydd
  • Cwcis
  • Accessibility
  • Map o'r safle
Hawlfraint © 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Cedwir pob hawl