Eich diwrnod chi, eich ffordd chi - priodasau a phartneriaethau sifil ym mwrdeistref sirol Caerffili

Champagne glasses


Sut i ddathlu’ch priodas yn y lleoliad o'ch dewis, gyda seremoni wedi’i chynllunio’n berffaith i chi a'ch teulu a'ch ffrindiau.

Mae cyplau sy'n dewis priodi neu ffurfio partneriaeth sifil yn dymuno:

  • Priodas neu bartneriaeth sifil ddilys gyfreithiol
  • Achlysur i'w gofio
  • I deimlo’u bod wedi gwerthfawrogi, eu bod yn bwysig ac yn arbennig
  • Sylw llawn y person sy'n gyfrifol am gynnal y seremoni honno
  • Gwasanaeth proffesiynol 

Mae'r pwyntiau hyn wrth wraidd popeth a wnawn fel swyddogion cofrestru proffesiynol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’n swyddogion cofrestru yn deall yn iawn, er y gallant fod ar ganol y llwyfan wrth gynnal y seremoni, mai nad nhw yw canolbwynt y sylw. Rydym yn cadw'r sylw arbennig hwnnw yn gyfan gwbl i'r cwpl a'u gwesteion.

Ar hyn o bryd, mae'r gyfraith yng Nghymru a Lloegr ond yn caniatáu i briodas neu bartneriaeth sifil gyfreithiol ddigwydd mewn lleoliad (sifil neu grefyddol) sy'n cael eu trwyddedu fel bod y digwyddiadau cyfreithiol hynny yn gallu digwydd yno.

Mae yna nifer o leoliadau sifil trwyddedig ym mwrdeistref sirol Caerffili a nifer o leoliadau crefyddol. Y lleoliadau sifil yw:

  • Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach
  • Gwesty Golff a Sba Bryn Meadows, Maes-y-cwmwr
  • Castell Caerffili
  • Maenordy Llancaiach Fawr, Nelson
  • Gwesty Neuadd Llechwen, Llanfabon
  • Gwesty’r Maes Manor, Coed Duon
  • Neuadd Goffa Trecelyn, Trecelyn
  • Shappelles, Ystrad Mynach
  • Clwb golff ridgeway
  • Y Llanarth, Pontllan-fraith
  • Canolfan Y Rhosyn Gwyn, Tredegar Newydd

Yn y lleoliadau hyn, dim ond ym mhresenoldeb swyddogion cofrestru statudol y gall cyplau briodi neu ffurfio eu partneriaeth sifil yn gyfreithiol.Gall lleoliadau eraill wneud cais i gael eu trwyddedu ar gyfer priodasau sifil a phartneriaethau sifil os ydynt yn dymuno.

Fodd bynnag, bydd lleoedd eraill yr hoffai cyplau ddathlu eu priodas neu eu partneriaeth sifil yn y ffordd y maent yn dymuno ei wneud ymhlith teulu a ffrindiau. Gall y llefydd hyn gynnwys pabell ar dir lleoliad neu gartref, yn eu gerddi, neu fan arall sydd yn arbennig i'r cwpl, neu mewn un o'r lleoliadau trwyddedig sydd eisoes wedi'u rhestru, ond lle na ellir eu trwyddedu am resymau amrywiol oherwydd efallai na fyddant yn bodloni'r meini prawf sy'n caniatáu trwyddedu. 

Yn yr achosion hyn, ac i sicrhau bod cyplau’n cael priodas neu bartneriaeth sifil sy'n ddilys yn gyfreithiol a'u bod yn gallu cael gwasanaeth dathlu wedi'i gynllunio i adlewyrchu eu dymuniadau eu hunain ac a ddarperir gan weithiwr proffesiynol, gallwch gyfuno’ch seremoni gyfreithiol mewn unrhyw un o'n lleoliadau trwyddedig gyda seremoni dathlu i ddilyn yn eich dewis lleoliad. Gall hyn fod yn yr un lle neu gallai fod yn lle hollol wahanol ond bob amser ym mhresenoldeb swyddogion cofrestru a fydd yn eich helpu dylunio seremoni bwrpasol, gan gynnwys yr holl bethau personol hynny a fydd yn gwneud eich diwrnod yn arbennig.

Ynglŷn â seremonïau a dathliadau cyfreithiol

Mae seremoni a dathliad cyfreithiol yn briodas seremonïol neu bartneriaeth sifil gyfreithiol a phwrpasol mewn dwy ran.

Mae'r briodas neu bartneriaeth sifil gyfreithiol yn digwydd mewn lleoliad trwyddedig ac yn cael ei ddilyn gan seremoni dathlu, a gynhelir fel arfer mewn lleoliad, ni fyddai'n gymwys i gael ei drwyddedu ar gyfer priodasau neu bartneriaethau sifil. Gall hyn gynnwys yn yr awyr agored, mewn pabell fawr neu leoliadau amrywiol eraill a all fod ag ystyr arbennig.

Pam bod cyplau yn dewis hyn?

Gall cyplau ddewis seremoni a dathliad cyfreithiol am eu bod yn dymuno dathlu eu priodas neu bartneriaeth sifil mewn lleoliad sydd heb ei thrwyddedu ar gyfer seremonïau.

Mae'r seremonïau a dathliadau cyfreithiol hyn yn cynyddu mewn poblogrwydd gan eu bod yn rhoi i gyplau’r gorau o’r ddau opsiwn: priodas neu bartneriaeth sifil gyfreithiol â'r rhyddid i gael dathliad o’r briodas neu bartneriaeth sifil hynny yn eu dewis lleoliad.

Sut i’w trefnu

I drefnu seremoni, cysylltwch â ni er mwyn trafod eich opsiynau.

Gofynion cyfreithiol

Nid oes unrhyw ofynion cyfreithiol ar gyfer y seremoni dathlu ei hun. Fodd bynnag, unwaith y byddwch wedi penderfynu lle rydych yn dymuno cynnal eich seremoni gyfreithiol mae angen i chi osod eich rhybudd o briodas neu bartneriaeth sifil.

Mae seremoni gyfreithiol yn y Swyddfa Gofrestru yn Nhŷ Penallta yn ddewis poblogaidd ac rydym yn cynnwys hyn yn ein 'pecyn' seremoni a dathliad cyfreithiol a nodir isod. Os ydych yn dymuno cynnal eich seremoni, gan gynnwys y gweithrediadau cyfreithiol, ar dir ein lleoliadau trwyddedig, yna gall y lleoliad a'r cofrestryddion gytuno ar hyn ymlaen llaw ar gyfer rhai o'n heiddo, a bydd cynllun wrth gefn yn ei le ar gyfer tywydd garw neu faterion eraill a allai godi ar y diwrnod.

Yr hyn y mae'r pecyn yn cynnwys a chostau

Mae gennym becynnau seremoni sy'n cynnwys y seremoni a’r dathliad cyfreithiol. Mae pecynnau yn amrywio mewn pris o £130 i £400+. Cysylltwch â ni a byddwn yn trafod eich gofynion ac yn rhoi ffioedd terfynol i chi ar gyfer elfennau cyfreithiol a seremonïol eich diwrnod. 

Mae'r pecynnau'n cynnwys:

  • Seremoni gyfreithiol yn y Swyddfa Gofrestru (Dydd Llun i Ddydd Gwener a bore Dydd Sadwrn neu fore Dydd Sul dim ond os wedi'i gyfuno â seremoni a ddarperir gan Gofrestryddion Caerffili mewn rhyw le arall ym Mwrdeistref Sirol Caerffili) yn ogystal â
  • seremoni dathlu pwrpasol mewn lleoliad na fyddai fel arfer yn gymwys i’w drwyddedu ar gyfer priodasau neu bartneriaethau sifil (eich gardd, lle arbennig).

neu 

  • seremoni gyfreithiol mewn ystafell drwyddedig o fewn un o'n lleoliadau (ar gael 7 diwrnod yr wythnos ar wahanol adegau i’ch siwtio) yn ogystal â
  • seremoni dathlu pwrpasol mewn lleoliad na fyddai fel arfer yn gymwys ar gyfer priodas neu bartneriaeth sifil gyfreithiol.

neu

  • yr holl weithdrefnau yn digwydd yn y gerddi, pabell fawr neu le arall ar diroedd y lleoliad trwyddedig os ydyn nhw’n fodlon darparu hyn, a bod cynllun wrth gefn ar gyfer tywydd garw ar gael.

Bydd y ffioedd hefyd yn cynnwys:

  • archwiliad ac asesiad o'r lleoliad arfaethedig gan weithiwr cofrestru (os yw'n berthnasol).
  • cyfarfod cynllunio gyda’r swyddogion cofrestru. 

Priodasau a phartneriaethau sifil yng Nghymru a Lloegr

Tabl sy'n nodi’r tebygrwydd a'r gwahaniaethau rhwng partneriaethau sifil a phriodasau fel sy'n berthnasol i gyplau o'r un rhyw neu o rywiau gwahanol.

Cysylltwch â ni