Oriau agor y swyddfa gofrestru
Coronafeirws – Diweddariad. Mae presenoldeb yn y swyddfa gofrestru drwy apwyntiad yn unig ac ni fydd unrhyw ymwelwyr yn gallu dod i mewn oni bai eu bod wedi gwneud trefniadau i wneud hynny. Mae mynediad i'r Swyddfa Gofrestru yn cael ei reoli'n llym.
Mae prif fynedfa Tŷ Penallta ar gau ond mae'r swyddfa gofrestru ar agor. Defnyddiwch y maes parcio ar bwys mynedfa'r ystafell seremonïau sydd ar ochr dde'r adeilad. Byddwn ni'n eich cynghori ar sut rydych chi'n cael mynediad pan fyddwch chi'n gwneud eich apwyntiad i fod yn bresennol.
Mae'r sefyllfa'n esblygu sy'n golygu ein bod yn newid ein canllawiau yn rheolaidd. Cysylltwch â ni i gael cyngor ar y gweithdrefnau cyfredol.
Mae ein swyddfa ym mhencadlys y cyngor sef Tŷ Penallta, Parc Tredomen, Ystrad Mynach. CF82 7PG.
Ar ôl cyrraedd Tŷ Penallta dilynwch yr arwyddion maes parcio i ymwelwyr. Ewch i mewn i’r adeilad drwy’r brif fynedfa yn y tu blaen. Mae derbynfa'r swyddfa gofrestru ar ochr dde'r brif dderbynfa.
Pe baech yn dod yno i fynychu seremoni mae gennym fynedfa ar wahân ar yr ochr dde i’r prif adeilad, mae maes parcio pwrpasol yno hefyd ar eich cyfer.
Trefnu ymweliadau ac oriau agor
I gofrestru genedigaeth, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil bydd yn rhaid i chi drefnu amser penodol.
Dyma'r oriau’r swyddfa:
- DyddiLlun, 9am hyd 4.30pm
- Dydd Mawrth, 9.30am hyd 4.30pm
- Dydd Mercher, 9am hyd 4.30pm (ond yn cau am 2.45pm ar ddydd Mercher cyntaf yn y mis)
- Dydd Iau, 9am hyd 4.30pm
- Dydd Gwener, 9am hyd 4pm
- Dydd Sadwrn, agored ar gyfer seremonïau’n unig
- Dydd Sul, agored ar gyfer seremonïau’n unig
Nid oes cofrestrydd ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 12.30pm a 1.30pm i gofrestru genedigaethau a marwolaethau.
Cysylltwch â ni i drefnu apwyntiad.
Mewn achos o argyfwng ynglŷn â chofrestru genedigaeth, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil y tu allan i’r oriau agor hyn, yna cysylltwch â 07771 886895 or 07813 094234.