Addysg Blynyddoedd Cynnar
Mae Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â’r Ardal Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant, yn darparu lle rhan amser mewn addysg blynyddoedd cynnar am ddim i bob plentyn yn y fwrdeistref sirol mewn lleoliad blynyddoedd cynnar sydd wedi’i gymeradwyo o’r tymor yn dilyn eu pen-blwydd yn dair oed.
Yn ystod blwyddyn academaidd pen-blwydd eich plentyn yn bedair oed, dim ond mewn ysgol mae addysg blynyddoedd cynnar ar gael.
Lleoliadau blynyddoedd cynnar wedi’u cymeradwyo
Gall lleoliad wedi ei gymeradwyo fod yn lleoliad mewn ysgol a gynhelir sef dosbarth meithrin mewn ysgol, neu mewn lleoliad nas cynhelir, a allai fod yn gylch chwarae Saesneg neu Gymraeg neu’n feithrinfa ddydd breifat. Caiff pob lleoliad ei gofrestru gyda’r Awdurdod Addysg Lleol i gyflwyno addysg blynyddoedd cynnar.