Prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf
Cefnogi Newidiadau Teulu
Mae Cefnogi Newidiadau Teulu (CNT) yn cydlynu cefnogaeth i deuluoedd mewn amserau anghenus. Mae'r prosiect yn dod â Thîm o Amgylch y Teulu (TAT) ynghyd sydd yn gallu cynnig cefnogaeth ar gyfer ystod eang o anghenion, yn enwedig pan fo teulu â mwy nag un broblem. Mae gweithiwr arweiniol yn gweithio gyda'r teulu, ynghyd ag asiantaethau eraill i ddatblygu cynllun amlasiantaethol sy'n canolbwyntio ar gryfderau'r teuluoedd ac yn helpu i dorri'r cylch o faterion y maent yn eu hwynebu, yn adeiladu gwytnwch a chael mynediad at gyfleoedd eraill sy'n cwrdd ag anghenion teuluoedd.
01495 233232
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Ymgysylltiad â Phobl Ifanc a Theuluoedd Targedig
Mae'r prosiect hwn yn darparu ymyriadau â chymorth drwy sesiynau unigol a gweithgareddau grŵp sydd a’r bwriad o ddatblygu sgiliau personol a chymdeithasol, codi hyder a meithrin hunan-barch a gwytnwch. Mae yna hefyd ystod o weithgareddau a chymorth sydd ar gael i deuluoedd plant a phobl ifanc sydd am wella eu perthynas a'u hymddygiad o fewn y teulu. Gellir cael mynediad at weithgareddau awyr agored hefyd.
Gall Rhieni Ifanc hefyd gael mynediad i sesiynau yn y gymuned i'w cefnogi i oresgyn rhwystrau, mynd i'r afael â'r heriau y maent yn eu hwynebu a thyfu a datblygu fel pobl ifanc a rhieni.
01443 863033
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Teuluoedd yn Dysgu Gyda’i Gilydd
Nod Teuluoedd yn Dysgu Gyda'i Gilydd yw cynyddu dealltwriaeth rhieni o'r ffordd orau o gefnogi dysgu a datblygiad eu plant. Mae'r prosiect yn helpu rhieni, plant a phobl ifanc i wella sgiliau llythrennedd a rhifedd drwy grwpiau yn y gymuned a thrwy sesiynau unigol yn y cartref.
01495 233293
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Rhieni Hyderus, Teuluoedd Cryfach
Ei nod yw helpu i ddatblygu sgiliau magu plant, cynyddu gallu rhieni a gwella perthnasau teuluol, gan gynnig cefnogaeth gydag ystod o anghenion megis arferion, ymddygiad ac ymddygiad ymosodol. Bydd teuluoedd yn derbyn sesiynau unigol cychwynnol yn y cartref, ac wedyn yn symud ymlaen i fynychu rhaglen grŵp neu waith unigol pellach yn seiliedig ar anghenion y teulu.
02920 852550 Barnardo’s
Lles
Mae'r prosiect hwn yn cynnig cymorth i deuluoedd sy'n dioddef o gymhelliant isel neu hwyliau isel, pryder, iselder, ynysu cymdeithasol neu brofiadau bywyd trawmatig a bydd yn helpu i adeiladu gwytnwch, gwella lles emosiynol a chynorthwyo teuluoedd i deimlo'n fwy cadarnhaol a hyderus. Bydd y prosiect yn gweithio gyda'r rhiant, plentyn, person ifanc neu'r teulu cyfan. Bydd y cymorth yn dechrau gyda sesiynau unigol yn y cartref cyn symud ymlaen i sesiynau grŵp neu sesiynau unigol pellach am 8 wythnos.
02920 849230
Gweithredu dros Blant
Allgymorth Plant a Phobl Ifanc sy’n dioddef Cam-drin Domestig
Mae'r prosiect hwn yn darparu cymorth i blant a phobl ifanc yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig drwy sesiynau unigol a grŵp, gan sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi i archwilio, trafod a rhannu eu profiadau a'u teimladau. Gall y sesiynau unigol ddigwydd yn y cartref, yr ysgol, neu leoliad priodol arall. Mae'r sesiynau grŵp yn cynnwys gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar ddod â nifer o blant a phobl ifanc at ei gilydd, mewn grwpiau sy'n gysylltiedig ag oedran a chynnwys sesiynol.
02920 860255
Llamau
Diogelwch Teulu sy’n dioddef Cam-drin Domestig
Mae'r prosiect hwn yn cynnig sesiynau unigol sy'n darparu gwaith diogelwch, cefnogaeth, ac arweiniad ar unwaith i alluogi teuluoedd y mae Cam-drin Domestig yn effeithio arnynt i aros o fewn eu cartrefi. Mae'r prosiect hwn hefyd yn darparu sesiynau grŵp i famau ddatblygu eu dealltwriaeth o'r effaith y mae cam-drin domestig yn ei chael arnynt fel rhiant ac ar eu plant. Mae'r sesiynau hyn yn helpu mamau i feithrin y sgiliau sydd eu hangen i gadw eu teulu'n ddiogel rhag cam-drin yn y dyfodol.
02920 860255
Llamau
Allgymorth Iechyd
Mae'n darparu pecyn ymwybyddiaeth a chynhaliaeth cyn-enedigol ac ôl-enedigol i rieni mewn ardaloedd Dechrau'n Deg. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar ddarparu'r sgiliau sydd eu hangen ar rieni i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i'w plentyn. Mae'r cymorth yn cynnwys:
- Grwpiau magu plant Cyn-enedigol ac Ôl-enedigol Solihull
- 1i1 o gymorth pwrpasol yn y cartref, gan gynnwys cymorth penodol i famau â BMI o 30+
- Bwydo ymatebol (y fron a'r botel)
- Tylino'r Babi
- Deiet a maeth
- Archwiliadau Diogelwch Cartref
- Archwiliadau deintyddol
02920 886860
Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Parch Ieuenctid
Mae Parch Ieuenctid yn brosiect i bobl ifanc sy'n dangos arwyddion cynnar, neu sydd eisoes yn arddangos: ymddygiad camdriniaethol, ymosodol, ac ymddygiad rheolaethol mewn perthnasau teuluol neu agos. Mae'r prosiect hwn ar gael yn unig i bobl ifanc sydd wedi cael eu cyfeirio drwy Cefnogi Newidiadau Teulu neu'r Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc.
01495 235623
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Mwy na Chwarae
Nod Mwy na Chwarae yw gwneud y gorau o ddysgu a datblygu plant drwy chwarae. Bydd y Prosiect Mwy na Chwarae yn gweithio gyda phlant rhwng 18 mis a 2.5 mlwydd oed sydd ag oedi datblygiadol sy'n dod i'r amlwg. Bydd y prosiect hwn yn darparu pecyn pwrpasol yn y cartref gyda'r plentyn a'r teulu a fydd yn para rhwng 6-8 wythnos.
02920 867447
Gweithredu dros Blant
Allgymorth Canolfannau Adnoddau Arbenigol (CAA)
Bydd y prosiect hwn yn gweithio gyda phlant oedran Ysgol Feithrin/Derbyn sydd a nam ar eu lleferydd ac iaith difrifol. Gwneir atgyfeiriadau gan athrawon, am gymorth un i un yn eu hysgolion gan weithwyr Allgymorth CAA. Rhaid i atgyfeiriadau ar gyfer y prosiect hwn gael eu gwneud ar ddechrau'r flwyddyn ysgol tan hanner tymor yr Hydref.
01443 866601
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Lleoedd a Gynorthwyir a Chymorth Lleoedd
Cefnogaeth i blant gydag oedi datblygiadol sy'n dod i'r amlwg ac anghenion ychwanegol a fyddai'n elwa o gael eu rhoi mewn darpariaeth grŵp. Bydd y lleoliad yn cefnogi'r plentyn i ddatblygu yn ôl eu nodau unigol.
02920 760767
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Lleisiau Bach
Bydd y prosiect hwn yn cynorthwyo teuluoedd â phlant 1-3 blwydd oed sydd angen cymorth i ddatblygu eu sgiliau cyfathrebu oherwydd nam ar eu lleferydd ac iaith. Bydd y prosiect yn rhedeg grwpiau datblygu iaith cynnar am gyfnod o 10-12 wythnos (amser tymor). Mae'r sesiynau grŵp yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd siarad, canu, chwarae, a darllen stori gyda'i gilydd.
02921 321511
Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Gwent
Hyderus gydag Arian
Mae Hyderus gydag Arian yn gweithio gyda theuluoedd yn unigol drwy ymweliadau cartref ac yn rhoi'r wybodaeth ariannol, sgiliau a hyder iddynt i wella eu hamgylchiadau. Gall Ymgynghorydd Budd-daliadau Lles hefyd gynorthwyo gyda sicrhau bod gan y teuluoedd yr hawliau ariannol cywir. Er mwyn manteisio ar y prosiect hwn, mae'n rhaid i'r teulu gael ei heffeithio gan anabledd, meddu ar angen cymorth sy'n gysylltiedig â thai neu fod yn gweithio gyda Chefnogi Newidiadau Teulu.
01443 878057
Canolfan Cyngor ar Bopeth
Eiriolaeth Plant a Phobl Ifanc
Gwasanaeth annibynnol, cyfrinachol sy'n cefnogi plant a phobl ifanc drwy eu helpu i gael llais. Mae'r prosiect yn gweithio ar sail 1: 1 er mwyn galluogi'r plentyn, neu'r person ifanc, i archwilio eu barn, eu dymuniadau neu eu teimladau ar fater neu amgylchiad penodol.
02920 098688
Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol
Eiriolaeth Rhieni
Hefyd yn wasanaeth annibynnol cyfrinachol sy'n cefnogi rhieni i gael llais. Mae'r prosiect yn gweithio ar sail 1: 1 er mwyn galluogi'r rhiant i gael ei gefnogi a'i arwain drwy fater neu amgylchiad penodol.
02920 098688
Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol
Fforwm Rhieni
Yn rhoi cyfle i rieni ddysgu sgiliau newydd, ennill profiad gwirfoddoli a chwrdd â rhieni eraill. Mae'r grwpiau hefyd yn cymryd rhan yn natblygiad a darpariaeth y Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf sy'n helpu i lunio'r prosiectau drwy weithdai, trafodaethau ac ymgynghoriadau. Anogir rhieni hefyd i gael llais wrth ddatblygu gwasanaethau a strategaethau lleol eraill a all effeithio ar eu bywydau.
01443 875444
Rhwydwaith Rhieni Caerffili
Gofalyddion Ifanc
Mae cefnogaeth ar gael i ofalyddion ifanc o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Yn ogystal, mae Teuluoedd yn Gyntaf yn darparu grwpiau sy'n seiliedig ar faterion ledled Caerffili i ddod â nifer o ofalwyr ifanc at ei gilydd i rannu ac archwilio themâu cyffredin.
01633 615859
Barnardo’s
Rhagor o wybodaeth
Mae gan Teuluoedd yn Gyntaf Caerffili dudalen Facebook. Rydym yn rhannu gwybodaeth yn rheolaidd am ein holl brosiectau ac unrhyw ddigwyddiadau sydd ar y gweill yr ydym yn eu cynnall neu yn eu mynychu. Gallwch chi hefyd gysylltu â ni drwy neges Facebook.
www.facebook.com/caerphillyfamiliesfirst
Mae mwy o wybodaeth am Teuluoedd yn Gyntaf ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.