Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf Caerffili

Beth yw Teuluoedd yn Gyntaf?

Nod Teuluoedd yn Gyntaf yw gwella bywydau plant, pobl ifanc a theuluoedd yng Nghaerffili. Ei nod yw cynorthwyo teuluoedd cyfan, nid unigolion yn unig.

Rydyn ni'n cynorthwyo teuluoedd yn gynnar i ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad. Rydyn ni'n gweithio gyda theuluoedd sydd â phlentyn neu blant o 0 i 25 oed.

Rydyn ni'n gweithio gydag asiantaethau eraill fel bod teuluoedd yn cael cymorth cydgysylltiedig pan fydd ei angen arnyn nhw.

Rydyn ni'n adeiladu ar gryfderau’r teulu ac yn dangos ffyrdd newydd iddyn nhw o wneud pethau.

Mae hyn yn eu helpu nhw i deimlo'n fwy hyderus wrth ymdrin ag anawsterau y gallen nhw eu hwynebu yn y dyfodol.

Sut gall Teuluoedd yn Gyntaf eich helpu chi?

Mae magu teulu yn anodd, ac mae angen help a chymorth arnom ni i gyd rywbryd.

Yn aml, gall gofyn am help yn gynnar atal pethau rhag gwaethygu neu gyrraedd pwynt o argyfwng.

Os oes angen cymorth, cyngor neu arweiniad arnoch chi a'ch teulu, mae'n bosibl y gall Rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf helpu.

Gallwch chi gysylltu â ni drwy ffonio ein gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth ar 0808 100 1727 neu e-bostio CyswlltAcAtgyfeirio@caerffili.gov.uk

Byddan nhw'n dweud wrthych chi pa wasanaeth cymorth fydd fwyaf addas i chi.

Neu, os ydych chi'n gwybod pa wasanaeth sydd fwyaf addas i chi, gallwch chi gysylltu â'r prosiect yn uniongyrchol.

Mae'n well gan rai pobl ofyn i'w hymwelydd iechyd neu staff yr ysgol gysylltu â ni ar eu rhan nhw.

Mae ein prosiectau yn cynnwys cymorth ar gyfer sawl agwedd ar fywyd teuluol.

Ewch i bennawd prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf i gael rhagor o fanylion am ein prosiectau.

Cysylltwch â ni