16 Plws

Mae Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000 yn anelu at sicrhau na fydd pobl ifanc yn gadael gofal tan eu bod yn barod i wneud hynny. Unwaith y bydd pobl ifanc wedi gadael gofal, mae cefnogaeth bersonol ar gael tan eu bod yn 21 oed neu’n 24 oed os ydynt mewn addysg uwch. 

Mae’r Ddeddf yn nodi y dylai fod gan bobl ifanc:

  • Cynghorydd personol.
  • Cynllun Llwybr gofal gweithredol.
  • Cymorth ariannol priodol yn seiliedig ar angen. 

Mae ein gwasanaeth 16 Plws** i bobl ifanc sy’n gadael gofal yn cynnig cymorth a chyngor i helpu pobl ifanc i fyw’n annibynnol yn y gymuned ar ôl gadael gofal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Felly caiff pobl ifanc eu cefnogi yn y cyfnod sy’n pontio bod yn oedolyn drwy gyfleoedd i ddatblygu sgiliau ymarferol a hunan-ofal er mwyn byw’n annibynnol.

Ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal bydd y Tîm 16 Plws yn:

  • Helpu pobl ifanc i gadw mewn cysylltiad â’r bobl a fu’n gofalu amdanynt.
  • Helpu i osod, adolygu a chyflawni nodau drwy annog pobl ifanc i gymryd rhan lawn mewn asesiadau, cynlluniau ac adolygiadau.
  • Darparu gwybodaeth berthnasol a fydd yn cefnogi pobl ifanc i wneud penderfyniadau hyddysg wrth ystyried opsiynau a dewisiadau ar gyfer y dyfodol.
  • Gweithio gyda darparwyr gyrfaoedd, addysg a hyfforddiant i helpu pobl ifanc i ddod o hyd i waith a/neu feithrin sgiliau ychwanegol.
  • Cynnal a datblygu rhwydweithiau cefnogaeth.
  • Helpu gyda materion ariannol a llety.  

Pwy sy’n gymwys i gael cymorth?

Bydd y tîm 16 Plws yn cefnogi pobl ifanc sy’n gadael gofal sy’n dod o dan y categori:

  • Cymwys. 16-17 oed ac yn derbyn gofal ar hyn o bryd ac sydd wedi derbyn gofal am gyfnod o 13 wythnos o leiaf (neu gyfnodau sydd gyda’i gilydd yn 13 wythnos) ers eu pen-blwydd yn 14 oed. Ni fydd hyn fel arfer yn cynnwys gofal seibiant

  • Perthnasol. 16-17 oed ac wedi gadael gofal yn barod ond sydd wedi bodloni’r meini prawf ar gyfer person ifanc ‘Cymwys’.

  • Perthnasol yn flaenorol. 18-21 oed ac a oedd yn berson ifanc ‘Perthnasol’ neu ‘Gymwys’ o’r blaen.

Efallai na fydd rhai pobl ifanc yn dod o fewn y categorïau hyn ond eu bod wedi derbyn gofal. Yn yr achos hwn gallai’r Tîm 16 Plws dal i roi cyngor a chymorth.

Sut mae’r broses hon yn gweithio?

O gwmpas 15 ½ oed caiff cyfeiriad ei wneud i’r Tîm 16 Plws ar gyfer gweithiwr cymdeithasol 16 Plws i fynd i Adolygiad Derbyn Gofal er mwyn cyflwyno gwasanaethau 16 Plws. Yn fuan wedyn bydd cynghorydd personol yn dechrau gweithio gyda’r person ifanc i helpu gyda pharatoadau i adael gofal. Bydd y cynghorydd personol yn egluro’r cymorth y mae’r Tîm 16 Plws yn ei gynnig a’r gwasanaethau sydd ar gael ac yn cwblhau Cynllun ‘Fy Llwybr’ gyda’r person ifanc i nodi eu dymuniadau a’u teimladau ynglŷn â gadael gofal.

Wedyn bydd gweithiwr cymdeithasol o’r Tîm 16 Plws yn cynnal asesiad Paratoi ar gyfer Annibyniaeth a fydd yn ystyried y canlynol:

  • Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth
  • Teulu a pherthnasau cymdeithasol
  • Sgiliau byw’n annibynnol ac anghenion ariannol
  • Iechyd a datblygiad
  • Llety
  • Arian

O fewn 28 diwrnod i gwblhau’r asesiad bydd y gweithiwr cymdeithasol 16 Plws yn cwblhau Cynllun Llwybr. Bydd y cynllun hwn yn helpu i ddod o hyd i lwybr at y dyfodol ac yn edrych pa gymorth allai fod ei angen a beth i’w ddisgwyl. Caiff y Cynllun Llwybr ei adolygu bob 6 mis oni bai bod angen fel arall.

Os bydd y person ifanc yn gwrthod derbyn gwasanaethau gadael gofal 16 Plws, bydd angen cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad hwn fel cadarnhad o’r penderfyniad terfynol.

Mae’r Tîm Gadael Gofal 16 Plws hefyd yn annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn amrywiaeth o gymorth i’w helpu nhw yn y cyfnod pontio tuag at annibyniaeth sy’n cynnwys:

  • Grŵp misol ‘Shout Out’ 
  • Grwpiau iechyd rhywiol
  • Grŵp Rhieni Ifanc
  • Dosbarthiadau rheoli tenantiaeth
  • Diwrnodau gweithgareddau
  • Digwyddiadau Wythnos Genedlaethol Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal

Canllawiau a Deddfwriaeth y Llywodraeth 

Rheoliadau Plant (Ymadael â Gofal) (Cymru) 200

Deddf Plant (Ymadael â Gofal) 2000

Ailgysylltu â Gofal

Mae Ailgysylltu â Gofal yn newid i Ddeddf Plant 1989 sy’n galluogi pobl ifanc rhwng 21 a 25 oed a oedd yn derbyn gofal yn ffurfiol gan yr awdurdod lleol i gael cymorth pellach o wasanaethau gadael gofal 16 Plws. Mae’r cymorth hwn wedi’i gynllunio i helpu pobl ifanc i gyflawni eu hamcanion addysg, hyfforddiant neu waith.

Mae gan berson ifanc sy’n ailgysylltu â Chaerffili yr hawl i gael asesiad i benderfynu a fyddai cymorth yn briodol ar ei gyfer. Os bydd yr asesiad yn penderfynu bod cymorth yn briodol, caiff y person ifanc help i gyflawni ei amcanion addysg, hyfforddiant neu waith. Bydd gan y person ifanc Gynllun Llwybr hefyd a chyfle i gael cynghorydd personol.

Cynllun Pan fydda i’n barod

Mae’r cynllun 'Pan fydda i'n barod' yn caniatáu i berson ifanc sydd eisoes mewn lleoliad gofal maeth cymeradwy a chofrestredig i barhau i fyw yn yr amgylchedd magu sefydlog teuluol hynny ar ôl iddynt gyrraedd 18 oed. Bydd eich gofalydd maeth yn cael eu hadnabod fel Darparwr 'Pan fydda i'n barod' os ydych yn parhau â hwy yn dilyn eich pen-blwydd yn 18 oed.
Am fwy o wybodaeth am y cynllun 'Pan fydda i'n barod', cysylltwch â’r tim 16 Plus neu edrychwch ar ein taflen (nid ar gael ar hyn o bryd)

Mwy o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth a chyngor am adael gofal, cysylltwch â’r Tîm 16 Plws / Gadael Gofal

Cysylltwch â ni