Cymorth i rieni

Gwybodaeth ac arweiniad am wasanaethau cymorth i rieni

Cymorth i rieni

Rydyn ni’n gweithio ochr yn ochr â theuluoedd, gyda phlant 0-7 oed i gael y canlyniadau gorau i’w babanod a’u plant, o feichiogrwydd hyd at ddechrau’r ysgol a thu hwnt.

Trwy rianta cadarnhaol a meithrin perthnasoedd ystyrlon, gall rhieni helpu i fagu plant iach, datblygu cartref tawelach a mwy heddychlon, gyda llai o ddadleuon a gwrthdaro. Byddwn ni’n gweithio gyda chi i gyflawni ‘Beth sy’n Bwysig’ i chi a’ch teulu, a lle bo’n briodol, byddwn ni’n cysylltu â’n hasiantaethau partner i sicrhau ymagwedd gyfannol.

Rydyn ni’n darparu cymorth 1:1 pwrpasol i deuluoedd yn ogystal â rhaglenni grŵp. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd i wella sgiliau rhianta cadarnhaol, cryfhau perthnasoedd a meithrin lles a gwydnwch.  Gallwn ni hefyd hybu dealltwriaeth o ddatblygiad plant. Bydd y ffocws ar Beth sy’n Bwysig i chi a’ch teulu chi.

Efallai y bydd y tudalennau hyn yn ateb rhai o’ch cwestiynau wrth i’ch plentyn dyfu a datblygu. Os nad ydyn nhw, neu os oes angen cymorth arnoch, cysylltwch â ni.

Yn yr adran hon

Dilynwch ni

Facebook