FFURFLENNI AR-LEIN / ONLINE FORMS

FFURFLENNI AR-LEIN: Ni fydd rhai ffurflenni ar-lein ar gael rhwng 5:00pm a 7:00pm ar y 19 Mawrth 2024, tra byddwn yn gwneud gwaith cynnal a chadw hanfodol.  Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra y gall hyn ei achosi

ONLINE FORMS: Some of our online forms will be unavailable between 5:00pm and 7:00pm on the 19 March 2024, whilst we carry out essential maintenance. We apologise for any inconvenience this may cause.

Dewis crefftwr dibynadwy

Ydych chi ar fin cyflogi crefftwr i weithio yn eich cartref neu’ch gardd?

Pa un a yw’r gwaith yn fawr neu’n fach, gall dewis crefftwr dibynadwy i weithio ar eich cartref fod yn dipyn o her i’r rhan fwyaf o ddeiliaid tai.

Mae Cynllun TrustMark Safonau Masnach De-ddwyrain Cymru yn eich galluogi i ddod o hyd i grefftwr i wneud gwaith trwsio, cynnal a chadw neu wella ar eich eiddo sydd wedi’i gymeradwyo o dan safon TrustMark sy’n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth.

Wrth ddewis crefftwr TrustMark gallwch fod yn sicr eich bod yn gwneud eich gorau i wneud y dewis iawn.

Mae crefftwyr cymeradwy’n cael eu fetio fel a ganlyn:

  • Eu gwirio gan y gwasanaeth safonau masnach i sicrhau eu bod yn ddibynadwy a bod ganddynt enw da
  • Mae sgiliau technegol pob cwmni wedi cael eu gwirio’n annibynnol trwy arolygiadau ar y safle
  • Mae ansawdd eu gwaith, eu harferion masnach a boddhad eu cwsmeriaid yn cael eu monitro
  • Gwiriadau o gofnodion masnachu a statws ariannol cwmnïau
  • Gall cwmnïau gynnig gwarantiad wedi’i gefnogi ag yswiriant
  • Gweithdrefn gwyno glir a hawdd ei defnyddio os ydych ei hangen
Cysylltwch â ni

Ar y we yn gyffredinol

Trustmark