Nwyddau ffug

Yn aml rydym yn gweld nwyddau ffug sy’n waeth eu hansawdd, wedi’u copïo’n anghyfreithlon ac, weithiau, nad ydynt yn ddiogel ar werth i’r cyhoedd, fel dillad, DVDs, meddalwedd cyfrifiadurol ac, yn fwy diweddar, sigaréts.

Rydym yn cymryd cynhyrchu, dosbarthu a gwerthu’r nwyddau hyn o ddifri ac yn gweithio’n agos gyda sefydliadau sy’n cynrychioli masnachwyr dilys, ac yn cael gwybodaeth ganddynt. Rydym yn monitro ebay yn rheolaidd ac yn defnyddio Deddf Enillion Troseddau 2002 i adennill asedau a gafwyd o fod yn droseddwr.

Adnabod copi

Gall fod yn anodd adnabod nwyddau ffug gan fod troseddwyr yn dod yn fwy soffistigedig wrth gynhyrchu copïau. Nid yn unig mae’r eitemau wedi’u gwneud i edrych yn debyg ond yn achos persawr, mae’r pecynnau ac aroglau’r persawr yn cael eu copïo. 

Awgrymwn y cyngor canlynol ar sut i adnabod nwyddau amheus:

  • Ble cafodd ei werthu – Gall ble mae dilledyn yn cael ei werthu fod yn awgrym defnyddiol a yw’n ddilys ai peidio. Os cymerwn ni enghraifft oriorau Rolex, ni fyddech yn disgwyl eu gweld ar werth mewn marchnad neu arwerthiant cist car. Mae’r cwmnïau sydd â’r Nod Masnach ar gyfer llawer o nwyddau’n trwyddedu rhai manwerthwyr yn unig i werthu’r cynhyrchion. Felly gall ble y cawsant eu gwerthu fod yn arwydd pwysig. Os yw’r eitem yn cael ei gwerthu ar y rhyngrwyd edrychwch ar wefan Brand-i sy’n rhestru cyflenwyr awdurdodedig yn unig.
  • Y pris - Mae prisiau manwerthu uchel ar rai dillad dylunwyr neu ddillad chwaraeon. Mae’r ffugiwr yn sylweddoli hyn a bydd yn codi prisiau is na’r pris manwerthu. Os yw rhywun yn cynnig bargen anhygoel ichi, mae’n debyg ei bod hi’n union hynny, yn amhosibl ei chredu. Rhai o’r castiau eraill mae ffugwyr yn eu defnyddio yw dweud eu bod ‘o safon ychydig yn eilradd’ neu’n ‘stoc methdaliad’ i gyfiawnhau’r pris is. Mae pobl sy’n gwerthu o gesys ar y stryd yn cyhoeddi bod y nwyddau ‘wedi’u dwyn’ er mwyn cyfiawnhau eu prisiau. Caiff sigaréts eu cynnig ar werth fel rhai wedi’u mewnforio o’r cyfandir, ond gwelir mai rhai ffug ydyn nhw.
  • Yr ansawdd  - Bydd ansawdd y dilledyn o safon waeth na’r un gwreiddiol. Gall edrych ar bethau ar y dilledyn fel gorffeniad brodwaith, eglurder labeli a’r olwg gyffredinol ar y cynnyrch roi syniad a yw’n ddilys ai peidio.

Canllaw byr ar sut i adnabod copi yw hwn. Mae rhai cwmnïau’n mynd ymhellach trwy gynhyrchu taflenni canllaw ar eu cynhyrchion a sut i adnabod y copïau.

Rydym yn gweithio’n agos gyda nifer o sefydliadau masnach yn ein brwydr yn erbyn ffugio nwyddau. Mae’r  Anti Counterfeiting Group yn cynhyrchu gwybodaeth a chanllawiau am yr effaith genedlaethol ar y broblem a’r niwed mae’n ei achosi i fanwerthwyr go iawn ac i’r economi yn gyfan.

Sut y gallwch chi helpu

Os ydych chi’n gwybod neu’n amau bod rhywun yn cyflenwi eitemau ffug cysylltwch â niBydd unrhyw wybodaeth a gawn yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol.

Cysylltwch â ni