Cael tatŵ

Pan gewch datŵ mae inc yn cael ei roi i mewn i ail haen eich croen gan ddefnyddio nodwydd fach. Mae peiriant tatŵ trydanol yn gwthio nodwyddau i’r croen hyd at 150 o weithiau bob eiliad.

Gall fod yn boenus gan na ddefnyddir unrhyw anaesthetig. At ei gilydd gall y rhan fwyaf o bobl ymdopi â’r boen; bydd tatŵydd profiadol cofrestredig yn gwybod pa mor ddwfn i roi’r nodwydd.

Gall tatŵwyr dibrofiad wthio’r nodwydd i mewn yn rhy ddwfn, gan achosi poen ingol a gwaedu.

Peryglon tatŵs

Os yw’r man lle mae’r tatŵ yn mynd yn goch iawn, yn chwyddo neu’n cosi neu’n boenus, mae’n bosibl bod gennych adwaith alergaidd neu haint. Gall heintiau wneud ichi deimlo’n sâl iawn ac achosi gwenwyniad gwaed ac mewn achosion difrifol, marwolaeth.

Os oes gennych wres uchel neu os ydych chi’n teimlo’n sâl neu’n poeni ar ôl cael tatŵ, cysylltwch â’ch meddyg teulu ar unwaith.

Gyda thatŵs mae hefyd perygl firysau fel Hepatitis B, Hepatitis C ac HIV a all achosi salwch difrifol sy’n peryglu bywyd. Gall y rhain gael eu trosglwyddo i’ch corff os yw’r cyfarpar a ddefnyddir wedi’i halogi gyda gwaed rhywun arall.

Mae tatŵs yn barhaol. Mae modd eu tynnu ond mae hyn yn ddrud iawn, gall fod yn boenus iawn, gall gymryd amser hir a gall adael creithiau.

Os ydych wedi penderfynu cael tatŵ cofiwch fod tatŵs am oes. Meddyliwch yn ofalus iawn am y dyluniad a ble rydych eisiau iddo fod. Efallai y daw amser pan fyddwch eisiau ei guddio.

Tatŵwyr cofrestredig

Defnyddiwch datŵydd cofrestredig bob amser gan y bydd wedi’i gymeradwyo gan y cyngor am gyrraedd safonau diogelwch a hylendid ac yn cael archwiliadau rheolaidd. 

Bydd tatŵwyr cofrestredig: -

  • Yn gwisgo menig
  • Yn defnyddio nodwyddau ac inc ffres i bob cwsmer
  • Yn meddu ar ffwrn aerglos i sterileiddio’r holl gyfarpar arall
  • Yn rhoi cyngor clir ar sut i ofalu am eich tatŵ

Cofiwch – unrhyw amheuon – cerddwch i ffwrdd.

Dim ond cwsmeriaid dros 18 oed y bydd tatŵwyr cofrestredig yn eu tatŵio.

Yn y Deyrnas Unedig mae’n drosedd tatŵio unrhyw un o dan 18 oed hyd yn oed gyda chaniatâd rhiant.

Tatŵs anghyfreithlon – y peryglon

  • Mae tatŵs yn dod yn fwy a mwy poblogaidd, ond yn anffodus mae’r un peth yn wir am datŵs anghyfreithlon
  • Mae tatŵs anghyfreithlon yn cynnwys unrhyw datŵs a wneir gan rywun nad yw’n datŵydd cofrestredig ac unrhyw datŵs ar bobl ifanc dan 18 oed
  • Mae tatŵs anghyfreithlon yn aml o ansawdd gwael ac yn boenus, ac mae ganddynt risgiau llawer uwch o heintiau a phroblemau iechyd eraill.

Byddwch yn ddiogel – defnyddiwch datŵydd cofrestredig bob amser.

Os oes gennych unrhyw bryderon am datŵydd, cysylltwch â ni.

Stiwdios tatŵio cofrestredig

Mae’r stiwdios tatŵio ym mwrdeistref sirol Caerffili ar y rhestr ganlynol wedi’u cofrestru o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982. Mae’n rhaid i bob safle lle gwneir gwaith tatŵio gael ei gofrestru gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Cysylltwch â ni