Cymorth busnesa chyngor
Grantiau Annomestig sy'n Gysylltiedig â Threthi (NDR) Covid-19 – Ionawr 2022
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfarwyddo awdurdodau lleol i gau’r cyllid grant hwn i geisiadau newydd mewn perthynas â Grantiau Ardrethi Annomestig yng Nghymru am 5pm ddydd Llun, 14 Chwefror 2022. Mae hyn yn golygu na allwn dderbyn unrhyw geisiadau hwyr.
Ap COVID-19 y GIG – creu cod QR coronafeirws y GIG ar gyfer eich lleoliad
Mae busnesau ledled Cymru a Lloegr, fel tafarndai, bwytai, salonau trin gwallt a sinemâu, yn cael eu hannog i arddangos posteri cod QR y GIG yn eu mynedfeydd, fel bod cwsmeriaid sydd wedi lawrlwytho ap COVID-19 newydd y GIG yn gallu defnyddio eu ffonau clyfar i gofrestru’n hawdd yn y lleoliadau hyn.
Cynnal cofnodion staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr i gefnogi Profi ac Olrhain y GIG
Mae'n ofynnol i fusnesau gasglu enw a rhif ffôn pob person sy'n ymweld â'ch adeilad a chadw'r wybodaeth hon am 21 diwrnod.
Lefel rhybudd 0: canllawiau i gyflogwyr, busnesau a sefydliadau
Beth sydd angen i fusnesau, cyflogwyr, sefydliadau a threfnwyr gweithgareddau a digwyddiadau wneud yng Nghymru ar lefel rhybudd 0.
Llywodraeth Cymru – cymorth i fusnesau
Os ydych chi'n profi anawsterau ar hyn o bryd neu os oes gennych chi unrhyw bryderon o ran gweithrediadau/cadwyn cyflenwi eich busnes, cysylltwch â llinell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu ddilyn y ddolen Busnes Cymru i gael gwybodaeth am ryddhad ardrethi busnes, grantiau a benthyciadau i fusnesau i helpu yn ystod yr aflonyddwch sy'n cael ei achosi gan COVID-19
Cymorth ac arweiniad busnes i'r sector twristiaeth a lletygarwch yn ystod Covid-19
Rydyn ni wedi llunio canllawiau ar bynciau penodol i helpu busnesau twristiaeth a lletygarwch i ailagor yn ddiogel. Byddwn ni'n parhau i ddiweddaru'r wybodaeth hon.
Covid-19 - Busnesau lleol sy'n cynnig gwasanaethau dosbarthu
Os ydych chi'n fusnes bwyd ac yn cynnig gwasanaeth cludo i drigolion sy’n agored i niwed neu'r rhai sy'n hunanynysu yn ystod y pandemig coronafeirws Covid-19 ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, rhowch wybod i ni. Ewch i'n gwefan ar gyfer busnesau sy'n cynnig gwasanaethau dosbarthu bwyd i gael manylion.
Cymorth lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn dal i redeg ei gynlluniau grantiau arferol i helpu busnesau newydd sy'n ehangu.
Os hoffech chi i rywun o Adran Cymorth Busnes y Cyngor gysylltu â chi ynglŷn â chynlluniau grantiau'r Cyngor neu i drafod agwedd ar eich cynlluniau busnes neu bryderon, anfonwch e-bost i busnes@caerffili.gov.uk.
Canllawiau i gyflogwyr a busnesau ynghylch COVID-19
Gwybodaeth am COVID-19 i gyflogwyr a busnesau, a'r hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud.
Coronafeirws (COVID-19): amodau cynllunio
Canllawiau i awdurdodau cynllunio ar gyflenwadau manwerthu yn ystod y coronafeirws.
Taliadau Gwledig Cymru (RPW): coronafeirws (COVID-19)
Diweddariad diweddaraf ar wasanaethau RPW yr effeithir arnynt gan y coronafeirws.
Cynllun gweithredu y Deyrnas Unedig
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi llunio cynllun gweithredu ar gyfer sut mae'r Deyrnas Unedig wedi cynllunio ar yr achos cyfredol o coronafeirws (COVID-19), a'r camau pellach a fydd yn cael eu cymryd i fynd i'r afael ag ef.
Y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws (Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi)
O dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod Coronafeirws, bydd pob cyflogwr yn y Deyrnas Unedig sydd â chynllun Talu Wrth Ennill (PAYE) yn gallu cael cymorth i barhau i dalu rhan o gyflog eu gweithwyr yn achos y rhai a fyddai, fel arall, wedi cael eu diswyddo yn ystod yr argyfwng hwn.
Mae hyn yn berthnasol i weithwyr y bu gofyn iddynt roi'r gorau i weithio, ond sy'n cael eu cadw ar y gyflogres – sef ‘gweithwyr ar seibiant’ (‘furloughed workers’). Bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi yn ad-dalu 80% o'u cyflog, hyd at £2,500 y mis. Mae hyn er mwyn amddiffyn gweithwyr rhag cael eu diswyddo.
https://www.gov.uk/government/publications/guidance-to-employers-and-businesses-about-covid-19/covid-19-support-for-businesses
Cyngor ar ddosbarthu bwyd a darpariaeth tecawê
Os ydych chi'n fusnes bwyd ac yn ystyried darparu gwasanaeth tecawê neu ddosbarthu bwyd, dyma ddolen i rai canllawiau:
Cadw'n gyfoes
I gael gwybod y diweddaraf pan ddaw gwybodaeth newydd i law, cofrestrwch ar gyfer ein bwletin e-bost.
Os nad ydych chi'n dilyn y Cyngor eisoes, gallwch wneud hynny ar: