Gostyngiad ar gyfer pobl nad ydynt yn cael eu cyfrif

Mae bil llawn treth y cyngor yn seiliedig ar o leiaf 2 oedolyn yn byw mewn eiddo.

 Nid yw rhai pobl yn cael eu cyfrif wrth bennu faint o oedolion sy’n byw yn eich cartref.  Felly, os taw dim ond un oedolyn sy’n byw yn yr eiddo sy'n cael ei gyfrif o ran dibenion treth y cyngor, caiff eich bil ei leihau gan 25%.  

 Nid yw oedolion yn y grwpiau canlynol yn cyfrif tuag at nifer yr oedolion sy’n byw mewn eiddo. Cliciwch ar y dolenni canlynol i lawrlwytho’r ffurflen gais berthnasol: 

Aelodau o'r lluoedd tramor

Ni fyddwch yn gymwys am ostyngiad os ydych yn aelod o lu tramor (neu’n ddibynnydd aelod) o Bencadlysoedd Rhyngwladol a Sefydliadau Amddiffyn penodol.

Cofiwch, caiff y gostyngiad person sengl (25%) ei ddyfarnu os bydd UN person yn gyfrifol ar ôl i’r lleill gael eu diystyried, er enghraifft, mewn aelwyd â thri oedolyn mae'n rhaid i ddau gael eu diystyried cyn y gellir dyfarnu gostyngiad.

Os ydych yn meddwl y gallwch fod yn gymwys cysylltwch ag isadran treth y cyngor.

Cofiwch, os bydd eich amgylchiadau’n newid ac nad ydych mwyach yn gymwys i ostyngiad RHAID i chi roi gwybod i ni ar unwaith i osgoi cosb.