Eithriadau

Os bydd eich eiddo yn rhan o un o’r categorïau canlynol, bydd wedi’i eithrio o dreth y cyngor.

Eiddo wedi’u meddiannu

Dosbarth M – Mae Neuaddau Preswyl Myfyrwyr lle mae myfyrwyr yn byw yno’n bennaf a Neuaddau Preswyl sy'n berchen i gyrff elusennol ac yn cael eu rheoli ganddynt wedi’u heithrio. Bydd gofyn i’r myfyrwyr gyflwyno tystysgrifau myfyrwyr dilys a ddarperir gan eu coleg neu brifysgol.

Dosbarth N – Eiddo â'r holl ddeiliaid yn fyfyrwyr. Bydd hyn yn eithrio eiddo, sy’n wag yn ystod y gwyliau ond lle bydd myfyrwyr yn byw yno eto yn ystod y tymor.

Dosbarth O – Mae eiddo sy’n berchen i’r Ysgrifennydd Amddiffyn gyda’r lluoedd arfog, ac eithrio’r Lluoedd Tramor, yn byw yno, wedi’u heithrio.

Dosbarth P – mae eiddo lle mae aelodau o’r Lluoedd Tramor neu eu dibynyddion (os nad ydynt yn Ddinasyddion Prydeinig neu fel arfer yn byw yn y DU) yn byw yno wedi’u heithrio.

Dosbarth S – Mae pobl dan 18 oed yn byw yno.

Dosbarth U – Mae person(au) sydd â nam meddyliol difrifol yn byw yno.

Dosbarth V - Mae diplomyddion penodol yn byw yno.

Dosbarth W - Rhandy neu ran annibynnol o eiddo y mae perthynas oedrannus neu anabl i breswylwyr gweddill yr eiddo yn byw yno.

Dosbarth X - O 1 Ebrill 2019 mae eithriad yn berthnasol i eiddo y mae ymadawyr gofal yn byw ynddo yn unig neu lle mae pob preswylydd naill ai'n ymadawr gofal neu'n dod o dan y diffiniad o fyfyriwr neu berson â nam meddyliol difrifol.

Eiddo gwag

Dosbarth A - Mae eiddo gwag a heb ei ddodrefnu oherwydd ei fod yn y broses o gael ei adeiladu, ei adnewyddu neu ei atgyweirio'n strwythurol wedi'i eithrio am hyd at 6 mis o'r dyddiad y caiff atgyweiriadau / addasiadau eu cwblhau NEU 12 mis o'r dyddiad y bu rhywun yn byw yno, pa bynnag un sydd gyntaf.

Dosbarth B - Mae eiddo gwag sy’n berchen i sefydliad elusennol ac a ddefnyddiwyd diwethaf ar gyfer dibenion elusennol wedi’i eithrio am hyd at 6 mis o’r dyddiad ymadael.

Dosbarth C - Mae eiddo gwag a heb ei ddodrefnu wedi'i eithrio am hyd at 6 mis o’r dyddiad ymadael. Dyma'r categori mwyaf cyffredin a bydd yn cynnwys eiddo sydd ar werth neu'n aros i gael ei ailfeddiannu.

Dosbarth D – Gwag oherwydd bod yr unig ddeiliad arferol yn y carchar. Yr annedd hon yw ei brif gartref cyn iddo fynd i’r carchar (nid yw’n gymwys os yw wedi'i garcharu am beidio â thalu'r dreth y cyngor). Bydd yr eiddo wedi’i eithrio am y cyfnod y mae'r deiliad yn y carchar cyhyd â'i fod yn wag.

Dosbarth E – Gwag oherwydd bod yr unig ddeiliad arferol wedi gadael i gael gofal personol fel preswylydd mewn ysbyty, cartref nyrsio neu gartref gofal preswyl, a bydd wedi’i eithrio cyhyd â bod yr amgylchiadau hyn yn parhau. Rhaid iddynt fod yn absennol o’r annedd, am y rheswm hwnnw, drwy gydol y cyfnod dan sylw.

Dosbarth F – Gwag oherwydd bod y person a fyddai fel arfer yn gorfod talu’r dreth y cyngor wedi marw, ac na chyflwynwyd profiant na llythyrau gweinyddu. Mae hyn yn berthnasol hyd nes y cyflwynir profiant / llythyrau gweinyddu ac am 6 mis ar ôl hynny (oni bai bod rhywun arall yn dod yn berchennog arno neu'n byw ynddo). Bydd yr eiddo wedi’i eithrio cyn belled taw’r person ymadawedig oedd rhydd-ddeiliad/lesddeiliad yr eiddo.

Dosbarth G – Gwag oherwydd na chaniateir yn ôl y gyfraith i unrhyw un fyw ynddo. Byddai hyn yn cynnwys eiddo sy’n destun Gorchymyn Cau oherwydd ei fod yn anaddas i fyw ynddo, neu sy’n cael ei gadw’n wag oherwydd gorchymyn prynu gorfodol.

Dosbarth H – Annedd wag a gedwir ar gyfer gweinidog crefyddol (o unrhyw enwad) fel rhywle i gyflawni ei ddyletswyddau.

Dosbarth I – Gwag oherwydd bod yr unig ddeiliad arferol wedi gadael yr eiddo i gael gofal yn rhywle arall (ac eithrio rhywle a nodir yn Nosbarth E). Bydd yr eiddo wedi'i eithrio cyhyd â bod yr amgylchiadau hynny'n parhau. Rhaid iddynt fod yn absennol o’r annedd, am y rheswm hwnnw, drwy gydol y cyfnod dan sylw.

Dosbarth J – Gwag oherwydd bod yr unig ddeiliad arferol yn byw yn rhywle arall, er mwyn rhoi gofal i berson arall. Nid oes cyfyngiad amser o ran am ba hyd y bydd yr eiddo'n wag dan yr amgylchiadau hyn. Rhaid iddynt fod yn absennol o’r annedd, am y rheswm hwnnw, drwy gydol y cyfnod dan sylw.

Dosbarth K – Eiddo gwag a oedd yn cael ei feddiannu gan un neu ragor o fyfyrwyr sy’n byw mewn man arall i astudio. Bydd yr eiddo wedi'i eithrio i bobl sy'n byw mewn man arall ac nad oedd yn fyfyrwyr ar y dyddiad ymadael ond a ddaeth yn fyfyrwyr o fewn chwe wythnos o'r dyddiad hwnnw.

Dosbarth L - eiddo gwag â’r morgeisi yn ei feddiannu dan y morgais.

Dosbarth Q – Mae eiddo a adawyd yn wag oherwydd methdaliad lle byddai’r person sy’n gyfrifol am dalu'r dreth y cyngor yn ymddiriedolwr sy’n fethdalwr wedi'i eithrio. Dim cyfyngiad amser tra mai’r ymddiriedolwr sy’n fethdalwr yw'r person sy’n gyfrifol am dalu’r dreth y cyngor.

Dosbarth R - Annedd sy’n cynnwys llain neu angorfa heb garafán neu gwch arno.

Dosbarth T - Rhandy gwag i annedd a feddiannir anodd eu gosod ar wahân 

Sut i wneud cais

Os credwch eich bod yn gymwys ar gyfer unrhyw un o'r eithriadau a restrir, bydd angen i chi lenwi'r ffurflen gais ganlynol.

Os ydych am hawlio eithriad nam meddyliol difrifol - Dosbarth U - bydd angen i chi wneud cais gan ddefnyddio'r ffurflen gais hon