Mynediad at luniau TCC 

Rhaid i fynediad at luniau yn y system Teledu Cylch Cyfyng (TCC) fod yn unol ag amcanion y cynllun.   Mae memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn bodoli gyda Heddlu Gwent, sef prif ddefnyddiwr y lluniau.

Caiff y lluniau eu cadw am 31 diwrnod oni bai bod eu hangen at ddibenion llys.  Gall y lluniau fod ar gael mewn amgylchiadau eraill, fodd bynnag er mwyn sicrhau y rhoddir mynediad cyfreithlon atynt mae mesurau diogelu a rheolaeth ar waith.

Ceisiadau Mynediad at Ddata Unigolyn

Mae gan unigolion hawl i gopi o'r data a ddelir amdanynt trwy Gais Mynediad Pwnc Data. Mae gan unigolion hawl i gael copi o'r data a gedwir amdanynt am ffi chwilio o £10.  Gall ceisiadau am fynediad at ddata unigolyn ond cael eu gwneud pan fydd yr unigolyn yn brif ffocws y clipiau, a dim ond am gyfnod y ffocws hynny.

Ceisiadau yn unol ag Achos Cyfreithiol

Mae mynediad i ddelweddau dan Ddeddf Diogelu Data 2018 - Atodlen 2, Paragraff 5 (3) a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol 2016 yn ddewisol ond gellir eu caniatáu mewn cysylltiad ag achosion cyfreithiol at ddibenion cael cyngor cyfreithiol, neu at ddibenion sefydlu, ymarfer neu amddiffyn hawliau cyfreithiol.

Mae mynediad at luniau o dan Adran 35 (2) o Ddeddf Diogelu Data 1998 yn ddewisol ond gellir eu caniatáu mewn cysylltiad ag achosion cyfreithiol at ddiben cael cyngor cyfreithiol, neu at ddibenion sefydlu, gweithredu neu amddiffyn hawliau cyfreithiol.

Er enghraifft, ceisiadau oddi wrth gynrychiolwyr cyfreithiol neu gwmnïau yswiriant.

Gwneir gwiriadau gofalus er mwyn sicrhau bod ceisiadau'n ddilys ac mae ffi o £50 yn daladwy.

Ceisiadau mewn cysylltiad ag atal a darganfod troseddu.

Gellir gwneud ceisiadau ar gyfer lluniau ffilm gan asiantaethau erlyn ar wahân i Heddlu Gwent. Gwneir ceisiadau o'r fath o dan Atodlen 2 Paragraff 2 (3) o Ddeddf Diogelu Data 2018 a Rheoliadau Gwarchod Data Cyffredinol 2016 a byddant yn ymwneud ag ymchwilio i droseddau.

Drwy Orchymyn Llys

Gall y llys wneud orchymyn i ddarparu lluniau TCC lle nad yw unrhyw un o'r amgylchiadau uchod yn berthnasol.

Mewn rhai amgylchiadau gall lluniau ddatgelu gwybodaeth breifat am bobl nad ydynt yn berthnasol i'r cais.  Efallai y bydd angen i’r lluniau gael eu golygu, eu cuddio neu wedi’u picseleiddio er mwyn diogelu gwybodaeth breifat.  Efallai y bydd costau yn rhan o gyflawni hyn.

I gael cyngor pellach ac i wneud cais i gael mynediad at luniau, cysylltwch â’r Swyddog Diogelwch Cymunedol Cynorthwyol (Ystafell Reoli) ar 01443 873770.