Cwestiynau a ofynnir yn aml am TCC 

Cwestiynau a ofynnir yn aml am TCC 

Teledu Cylch Cyfyng (TCC) yw system teledu sy'n gweithredu ar sail "dolen gaeedig". Yn wahanol i deledu sy’n cael ei ddarlledu, sydd ar gael i unrhyw un sydd â derbynnydd addas, mae lluniau TCC ar gael dim ond i’r rheiny sy'n uniongyrchol gysylltiedig â’r ddolen, sef yr ystafell reoli monitro canolog yn achos Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae’r ddolen yn gyswllt corfforol sy'n cynnwys cebl optig ffibr sy'n cario’r lluniau o'r camera i fonitor.

Pwy sy'n gweld y lluniau?

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cyflogi 6 swyddog llawn-amser a 9 swyddog rhan-amser, sy'n monitro’n barhaus y lluniau 24 awr y diwrnod, 365 diwrnod y flwyddyn. Gellir hefyd gweld unrhyw luniau a welwyd gan y gweithredwyr ym mhencadlys Heddlu Gwent.

Pa mor hir y cedwir cofnodion digidol?

Cedwir cofnodion digidol dros gyfnod o 31 diwrnod oni bai bod eu hangen at ddibenion tystiolaethol mewn erlyniad troseddol. Mewn achosion o'r fath, mae Heddlu Gwent yn cadw’r lluniau tan ar ôl i’r achosion llys eu cwblhau, gan gynnwys o ran unrhyw apêl y gellid ei gwneud. Ar ddiwedd y cyfnod o 31 diwrnod, caiff unrhyw luniau, nad yw'n ofynnol fel tystiolaeth posibl mewn achos llys, eu dileu.

Beth yw amcanion y system TCC ym Mwrdeistref Sirol Caerffili?

Amcanion y system TCC yw:

Prif amcan y cynllun yw darparu amgylchedd diogel er budd y rhai sy'n byw, gweithio, masnachu, ymweld â, gwasanaethu a mwynhau cyfleusterau o fewn yr ardaloedd a gwmpesir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Amcanion allweddol y cynllun yw:

  • I ddiogelu bywyd ac i leihau'r risg a pherygl i bobl sy'n agored i niwed drwy fonitro teledu cylch cyfyng effeithiol
  • I helpu i ddatrys troseddau
  • I hwyluso'r broses o adnabod, arestio ac erlyn troseddwyr mewn perthynas â throsedd a threfn gyhoeddus
  • I helpu adfer llonyddwch a gostyngiad mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • I atal neu liniaru ymyriadau i lif y traffig (nid i orfodi'r gyfraith traffig)
  • I helpu lleihau ofn troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol gan felly hyrwyddo sicrwydd i'r cymunedau yr effeithir arnynt a hyrwyddo adfywio cymunedol ledled y rhanbarth.

Mae'r cynllun yn benodol yn eithrio:

  • Recordio sain mewn mannau cyhoeddus
  • Defnydd lluniau wedi'u storio at ddibenion adloniant neu fasnachol